GwyrddNi

GwyrddNi

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi ei leoli yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned. Mae’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd.
Mae GwyrddNi yn cael ei ariannu gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’i ddarparu gan (DEG), mewn partneriaeth â phum sefydliad cymunedol arall; Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw ym Mhen Llŷn.
Yn ystod 2022-2023 cynhaliom gyfres o bedwar Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd yn y pum ardal hyn, gan hwyluso Cynlluniau Gweithredu wedi ei greu ar y cyd gan y gymuned. Nawr, mae gennym gyllid tan 2027 i ddod a’r syniadau yma yn fyw!
Roedd Rhaglen Addysg GwyrddNi yn rhedeg hefyd; yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau cyffredinol i ddysgu am newid hinsawdd, sesiynau am ddatrysiadau hinsawdd lleol, ynghŷd â chyfle i ymweld ac arlwy o ddatrysiadau hinsawdd yn lleol i bob cymuned. Yn mynd ymlaen, bydd gwaith addysg GwyrddNi yn parhau, gydag arlwy o weithgareddau a chynig i gydweithio ar gael i ysgolion a cholegau’r pum ardal, a chynlluniau i ddatblygu cyfleoedd dysgu i oedolion ar y gweill. (Darllenwch fwy yma)
Erbyn diwedd y broses, roedd pob cymuned wedi dewis cyfres o syniadau i’w blaenoriaethu, yn cynnwys rhai o syniadau’r plant ysgol. Gallwch ddarllen y syniadau prosiect yma yn y Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol ar ein gwefan: https://www.gwyrddni.cymru/cynlluniau-gweithredu/
Mae GwyrddNi nawr wedi cael pedair blynedd a hanner o gyllid pellach gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi gwaith y cymunedau yn bellach: bydd £500,000 o gyllid ar gael i’r prosiectau, wedi ei rannu yn gyfartal dros y pum ardal, er mwyn parhau i weithredu ar y syniadau yn y Cynlluniau Gweithredu.
Bydd gwaith addysg GwyrddNi hefyd yn parhau, gydag arlwy o weithgareddau a chynig i gydweithio ar gael i ysgolion a cholegau’r pum ardal, a chynlluniau i ddatblygu cyfleoedd dysgu i oedolion ar y gweill.
I ddysgu mwy am GwyrddNi ewch draw i www.gwyrddni.cymru












