
Ynglyn â DEG
Pwy ydym ni
Menter gymdeithasol sydd wedi ennill sawl gwobr yw DEG sy’n cefnogi gweithredu cymunedol ar hyd a lled gogledd orllewin Cymru. Rydym yn ymdrechu i gynyddu gallu ein hardal i ddelio gyda’r cynnydd yng nghost tanwydd ffosil, ac i wella ein amgylchedd naturiol a symud tuag at gymunedau di-garbon.
Beth ydym yn ei wneud
Mae ein gwaith yn rhoi hyder, gwybodaeth ac uchelgais i gymunedau gymryd perchnogaeth o’u dyfodol trwy brosiectau fel:
• Lleihau’r defnydd o ynni, costau tanwydd a dibyniaeth ar danwydd anghynaliadwy
• Cryfhau’r economi leol
• Cynhyrchu trydan a gwres cynaliadwy
Mae DEG yn hwyluso gweithredu arfer gorau trwy gynnal digwyddiadau sy’n cysylltu cymunedau ac yn annog dysgu, rhannu sgiliau a phrofiadau.
Mae DEG yn darparu gwybodaeth am yr hyn sy’n bosibl, yr hyn a gyflawnwyd mewn mannau eraill yn ein hardal ac arfer gorau gan grwpiau ynni cymunedol ledled Prydain. Gallwn helpu gyda:
• Nodi cyfleoedd i’ch cymuned
• Cael pobl i gymryd rhan
• Cynllunio a datblygu prosiectau
• Cyrchu arbenigedd
• Codi cyllid i wneud i brosiectau ddigwydd
Gweledigaeth a gwerthoedd
Mae gwaith DEG yn seiliedig ar ein gweledigaeth a’n gwerthoedd:
Gweledigaeth
Rydym yn gweld gogledd orllewin Cymru fel casgliad o economïau lleol bywiog, cysylltiedig sy’n cydweithredu i elwa o fuddion ein treftadaeth naturiol.
Gwerthoedd
- Credwn y bydd ail-leoleiddio ein heconomïau yn ein gwneud yn llai agored i brisiau ynni cynyddol ac yn rhoi mwy o bwer inni greu’r byd yr ydym ei eisiau.
- Rydym yn cyfrannu at gymunedau yn dod yn gryfach, yn fwy hunangynhaliol ac yn gydnerth trwy gynhyrchu eu hynni eu hunain a’i ddefnyddio’n effeithlon.
- Rydym yn gweld cynaladwyedd yr amgylchedd naturiol, cyflawni cyfleoedd cyflogaeth a’r iaith a diwylliant Cymraeg yn gysylltiedig â’i gilydd.
- Rydym am i bobl deimlo’n hyderus y gallant gyfrannu at greu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer y dyfodol a chydweithio i’w gyflawni.
- Rydym yn hyrwyddo dull cydweithredol lle mae unigolion a chymunedau yn cydnabod eu cydgysylltiad ac yn cefnogi ei gilydd trwy rannu sgiliau ac adnoddau er budd pawb.
- Rydym yn ceisio deall a gweithio ochr yn ochr â chymunedau i nodi atebion sy’n iawn iddyn nhw, gan adael etifeddiaeth barhaol o sgiliau, gwybodaeth a gallu.
Cliciwch yma i ddarllen ein Datganiad Preifatrwydd.
Cliciwch yma i ddarllen ein Cynnig Cymraeg.
Tîm DEG

Grant Peisley
Cyfarwyddwr
Entrepreneur cymdeithasol, ymarferydd lleoliaeth ac ymgynghorydd cymunedau cynaliadwy. Mae Grant hefyd yn un o gyfarwyddwyr sefydlu DEG, yn ogystal ac o YnNi Teg ac Ynni Newydd. Yn y gorffennol mae Grant wedi helpu i sefydlu nifer o fentrau cymdeithasol gan gynnwys ei dafarn leol Ty’n Llan, a helpodd i ddod dan berchnogaeth gymunedol. Treuliodd bum mlynedd fel Cyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru ac yn fwy diweddar cafodd y cyfrifoldeb o sefydlu mudiad GwyrddNi ar gyfer gweithredu hinsawdd cymunedol ar draws Gwynedd.
Mae Grant yn gweinyddu gweithrediadau DEG, yn rhannu dysgu ar draws prosiectau ac yn gyffredinol yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau’n well i gymunedau Cymru a phawb sy’n byw ynddynt.
Pan gaiff amser rhydd mae’n chwarae Criced i Gaernarfon a Chymru dros 50 oed lle mae wedi ennill 10 cap gan gynnwys 3 gêm ryngwladol lawn.

Rhian Cahill
Cydlynydd Prosiect GwyrddNi
Arweinydd tîm profiadol yn y diwydiannau treftadaeth, twristiaeth, y celfyddydau a’r cyfryngau. Rhian yw Cydlynydd mudiad GwyrddNi ar ran DEG. Mae hi yn gweithio gyda phartneriaid a hwyluswyr cymunedol i alluogi gweithredu syniadau o’r Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd.
Mae ganddi gefndir prosiect amrywiol o rhaglenni artistiaid preswyl a rheoli arddangosfeydd sy’n cynnwys, Beth yn y Byd!12 Stori, Colonial Countryside a Llechi a Llafur ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rhoddodd y gwaith hwn lais clir i bobl a cyfle i archwilio cysylltiadau â lle, diwylliant a threftadaeth.
Yn ei hamser hamdden, mae’n gwerthfawrogi bod yn yr awyr agored yng nghefn gwlad yn cerdded ar hyd llwybrau’r arfordir. Yn angerddol dros warchod natur a bywyd gwyllt mae Rhian yn treulio amser yn glanhau traethau gyda ffrindiau a theulu yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig.

Gwenno Llywelyn
Cydlynydd Gwasanaeth Ynni
Ymunodd Gwenno â thîm DEG fel Swyddog Ynni yn gweithio ar Brosiect Sero Net Gwynedd yn cefnogi unigolion a theuluoedd ar draws ardaloedd Caernarfon, Dyffryn Nantlle, Pen Llyn, a Dyffryn Peris i leihau biliau ynni ac arbed carbon. Mae hi bellach yn cydlynnu Gwasanaeth Ynni DEG.
Gyda chefndir mewn seicoleg a chwnsela, mae Gwenno yn mwynhau gweithio’n agos gyda phobl yn y gymuned a rhyngweithio â phobl o bob cefndir.
Mae Gwenno hefyd yn Asesydd Ynni Domestig cymwysedig gyda diddordeb mawr mewn datgarboneiddio cartrefi.
Yn ei hamser rhydd, mae’n mwynhau gwneud crefftau a pobi cacennau.

Sara Ashton-Thomas
Cydlynydd Addysg
Sara yw Cydlynydd Addysg GwyrddNi. Bydd hi’n gweithio gyda gweddill y tîm i adeiladu cyfleoedd dysgu i waith y mudiad. Cyn ymuno a DEG fu Sara’n gweithio mewn amryw rôl ar y ffin rhwng cynaliadwyedd, yr amgylchedd, cymuned, a dysgu. Mae’n angerddol am botensial bobl yn dod at ei gilydd i greu dyfodol ffyniannus a chynaliadwy ar y blaned yma, ac wrth ei bodd yn hwyluso cyfleoedd ar gyfer hyn. Pan nad yw’n gweithio mae’n brysur yn magu ei phlant a chyfrannu at ei chymuned. Mae’n mwynhau bod tu allan, yn enwedig yn y coed ac ar y mynydd.

Lowri Hedd Vaughan
Hwylusydd Cymunedol ar Weithredu Hinsawdd
Lowri ydi Hwylusydd Gweithredu Hinsawdd Cymunedol prosiect GwyrddNi ar gyfer ardal Dyffryn Peris. Mae ei hanes gyrfa yn amrywiol ar draws gwasanaethau cyhoeddus gofal cymdeithasol, addysg a hyfforddiant ac yn fwy diweddar yn rhedeg menter gymdeithasol lletygarwch a fferm biodeinameg.
Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y rhyngwyneb a photensial trawsnewidiol rhwng adfywio cymunedol ac ecolegol. Mae ganddi dri o feibion ac yn mwynhau barddoni, cerddoriaeth, nofio gwyllt a dringo.

Osian Rowlands
Swyddog Ynni Cymunedol a Swyddog Addysg
Ymunodd Osian â thîm DEG fel Swyddog Ynni Cymunedol, yn gweithio ar Brosiect Sero Net Gwynedd ac yn darparu asesiadau ynni drwy Gwasanaeth Ynni DEG. Mae o rŵan hefyd yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos fel Swyddog Addysg hefo GwyrddNi, lle mae o’n helpu addysgu plant ac oedolion am ynni a newid hinsawdd.
Yn athro ers 30 o flynyddoedd mae Osian yn awyddus iawn i roi ei sgiliau cyfathrebu ar waith er mwyn cynnig cyngor i drigolion Gwynedd ar sut i leihau biliau ynni ac arbed carbon.
Yn ei amser sbar, mae’n mwynhau cerdded mynyddoedd, beicio, barddoni a photsian yn yr ardd.

Andy Charles-O’Callaghan
Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Yn brofiadol mewn gwaith datblygu ieuenctid, ymgyrchu, marchnata a chyfathrebu, Andy yw ein Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer GwyrddNi. Mae’n gweithio gyda thimau cyfathrebu, marchnata a hwyluso’r partneriaethau i gefnogi mentrau ledled y mudiad gan gynnwys y Rhaglen Dymhorol.
Mae ganddo gefndir diddorol ar ôl astudio Bioleg Forol a Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor ond symudodd i waith datblygu ieuenctid i ysbrydoli pobl ifanc gyda natur ledled Gogledd Cymru. Cefnogi pobl ifanc i gael llais i amddiffyn natur ar eu stepen drws oedd yr hyn a’i ysbrydolodd i symud i rôl ymgyrchu a chyfathrebu ar lefel y DU gyda’r Ymddiriedolaethau Natur.
Yn ei amser hamdden mae’n dwlu ar gerdded gyda’i gi Woody, yn hoff iawn o goginio a phobi, yn ogystal â cherdded a gwau er nad bob amser ar yr un pryd!
