Cynnig Cymraeg

Cynnig Cymraeg yw cydnabyddiaeth gan Comisiynydd Y Gymraeg i sefydliadau sydd wedi creu cynllun datblygu’r Gymraeg. Mwy: https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/busnesau-ac-elusennau/cynnig-cymraeg
Dyma ein Cynnig Cymraeg:
Gohebiaeth ysgrifenedig : Mae DEG yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yr holl ohebiaeth a dderbynnir trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ateb yn Gymraeg.
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl ohebiaeth a dderbynnir trwy gyfrwng y Gymraeg yn derbyn sylw o fewn yr un amserlen â gohebiaeth Saesneg.
Cyfathrebu dros y ffôn: Mae croeso i bobl siarad Saesneg neu Gymraeg wrth ddelio â DEG dros y ffôn. Os nad oes siaradwyr Cymraeg ar gael, gallwn drefnu i rhywun eich galw yn ôl.
Cyswllt wyneb yn wyneb a rhithiol: Mae DEG wrthi’n sicrhau bod y rhai sy’n dymuno cael cyswllt wyneb yn wyneb gyda chyflogai sy’n siarad Cymraeg yn gallu gwneud hynny naill ai’n ffisegol neu’n rhithiol. Efallai na fydd hyn yn bosib bob tro, ond ymdrechir i gynnig y gwasanaeth llawn hyd ag y bo modd.
Cyfathrebu: Bydd popeth rydym yn ei gyhoeddi, yn cynnwys blogiau, erthyglau, postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ddwyieithog gyda Cymraeg yn gyntaf.
Dysgu Cymraeg – mae DEG yn ymdrechu i annog a chefnogi cyflogeion sy’n dymuno dysgu Cymraeg ac i gefnogi staff sy’n siarad Cymraeg ac yn dymuno gwella eu sgiliau iaith. Bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn annog a chefnogi staff eraill sy’n dysgu Cymraeg i siarad Cymraeg yn y gweithle.
Byddym yn parhau i weithio ar ein Cynnig Cymraeg, ac yn adlewyrchu arno a’i wella pob blwyddyn. Os hoffech wybod mwy, mae croeso i chi gysylltu hefo gwyneth@deg.cymru hefo’ch cwestiynau!
