Prosiect Sero Net Gwynedd

Rhedodd Prosiect Sero Net Gwynedd o fis Mawrth 2022 tan Chwefror 2025. Darllenwch y tri astudiaeth achos yma i gael syniad o’r math o help a ddarparwyd.
Mae’r Prosiect uchelgeisiol yn bartneriaeth rhwng nifer fawr o sefydliadau, mentrau a busnesau o bob cwr o Gwynedd sef DEG, Cyd Ynni, Partneriaeth Ogwen, Yr Orsaf, MaesNi, YnNi Llŷn, Cymdeithas Tai Adra, Grŵp Cynefin, a Grŵp Llandrillo Menai.
Mae nifer o wahanol elfennau i’r prosiect sydd yn gweithio tuag at ddad-garboneiddio stoc dai Gwynedd, creu swyddi lleol yn yr economi werdd, a helpu teuluoedd yng Ngwynedd i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon. Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu hwb arbennig ar gyfer hyfforddi unigolion mewn technoleg newydd e.e gosod pympiau gwres, asesu a gwella safonau ynni adeiladau cymunedol, a chyflogi nifer o Swyddogion Ynni Cymunedol.
Y rhan o’r gwaith mae DEG yn gyfrifol amdano yw asesu’r adeiladau cymunedol, a chyflogi swyddogion ynni. Bydd llawer o bobl leol yn cael eu cyflogi fel swyddogion ynni, gan ymweld â chartrefi mewn chwe rhan o Wynedd (Caernarfon, Pen Llŷn, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris, Dyffryn Nantlle a Maesgeirchen, Bangor) er mwyn cynnig cyngor ar ynni, gan sicrhau bod trigolion ar y tariff ynni cywir.
Bydd y swyddogion ynni yn cael eu hyfforddi i gynnig cyngor am ynysu, atal drafftiau a sut i ddefnyddio ynni’n gost-effeithiol, fel y bydd trigolion yn gwario llai ar ynni. Gobeithio y bydd y prosiect yn helpu mwy a mwy o bobl i ddod yn rhan o’r ‘economi gwyrdd’, ac y bydd ein swyddogion ynni yn ymgymhwyso fel y gallant gymryd rhan mewn prosiectau eraill a fydd gennym yn y dyfodol.
Ein nod yn y Prosiect Sero Net yw helpu Gwynedd i ymgyrraedd at fod yn sero net, gan helpu trigolion waeth pa fath o dai sydd ganddynt, boed yn dai ar rent gan landlord preifat, tai cymdeithasol neu berchen-feddianwyr. Byddwn yn helpu pawb y cawn gyfle i siarad â nhw i leihau eu allyriadau carbon wrth inni symud ymlaen at 2030 – ond yn bwysicach fyth, byddwn yn helpu pobl gyda chostau dod yn garbon niwtral.
Derbynodd y prosiect dros £500,000 o nawdd gan y Llywodraeth ynghyd â £195,000 o arian cyfatebol gan bartneriaid yn wreiddiol, gyda’r prif grant o Gronfa Adfywio Cymunedol a Chronfa Codi’r Gwastad San Steffan. Mae’r Prosiect newydd gael cyllid newydd o £300,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Darllennwch fwy yma.
I ddysgu mwy am y prosiect neu i siarad gydag un o’r Swyddogion Ynni cysylltwch â Bharadwaj Raman, ein Cydlynydd Gwasanaeth Ynni, ar b.raman@deg.cymru / 07529902493

