Cyd Ynni
Beth rydym yn gwneud
Mae Cyd Ynni yn gonsortiwm o 9 grŵp cymunedol yng Ngwynedd sydd wedi dangos llwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf wrth ddarparu prosiectau ynni a chymunedol: Egni Mynydd, Ynni Padarn Peris, Ynni Anafon, Ynni Ogwen a Moelyci.
Mae pob un o’r grwpiau wedi gwneud cynnydd sylweddol – weithiau mewn amgylchiadau anodd – i gyflawni prosiectau sydd o fudd sylweddol i’r gymuned trwy waith caled gwirfoddolwyr.
Ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Cyd Ynni wedi treialu dull newydd o ddatblygu cymunedol trwy gydweithrediad traws-gymunedol – un sy’n rhoi pobl a dysgu wrth galon popeth a wnawn. Credwn y gallwn, trwy weithio gyda’n gilydd, gyflawni prosiectau ynni na all cymunedau unigol eu cyflawni.






