Cartrefi Clyd

Cartrefi Clyd

Mae Cartrefi Clyd yn bartneriaeth rhwng DEG a Cwm Arian Renewable Energy, Lightfoot Enterprises a Rounded Developments Enterprises i ddarparu cyngor ôl-osod i berchnogion tai.

Yn syml, mae ôl-osod tai yn meddwl eu gwella fel eu bod mor glyd ag sy’n bosib.

Mae pob un o’r partneriaid wedi darparu cyngor arbenigol ar arbed ynni neu ôl-osod dros nifer o flynyddoedd, ac yn fudiad ynni cymunedol neu’n fenter gymdeithasol wedi’u lleoli yng Nghymru. Maent yn deall daearyddiaeth, hinsawdd ac adeiladau lleol. Rydym eisiau helpu cynifer o gartrefi ag sy’n bosib, felly rhwng Rhagfyr 2023 ac Awst 2025, bydd ein gwasanaethau ar gael am bris gostyngedig, diolch i gyllid gan yr Energy Industry Voluntary Redress Scheme.

Ewch i https://www.cartreficlyd.cymru/cy/ am fwy o wybodaeth.