Siop Pwllglas
Roedd DEG yn Reolwr Cleient i wasanaeth Cymru Effeithlon (Resource Efficient Wales) gan Lywodraeth Cymru: gwasanaeth oedd yn darparu un pwynt cyswllt i bobl ar gyfer cymorth i ddefnyddio adnoddau (ynni, deunyddiau a dŵr) yn fwy effeithlon rhwng 2014 a 2018. Cefnogodd DEG sefydliadau cymunedol yng Ngogledd Cymru gyda chyngor effeithlonrwydd, o arolygon cychwynnol hyd at gomisiynu a throsglwyddo technolegau.
Siop gymunedol yw Siop Cymunedol Pwllglas sydd wedi’i lleoli ym Mhwllglas, Sir Ddinbych, o fewn Neuadd Bentref Pwllglas. Cysylltodd y siop â Chymru Effeithlon yn awyddus i arallgyfeirio incwm a lleihau eu costau trydan.
Ymwelodd Cymru Effeithlon â’r siop a’r neuadd i weld pa gyfleoedd oedd yna iddynt allu cyflawni eu nodau. Cynhyrchwyd adroddiad cyfleoedd, gan amlygu PV solar fel posibilrwydd. Be wnaeth Cymru Effeithlon:
- Darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni i sicrhau bod y Tariff Cyflenwi Trydan uwch yn bosibl;
- Darparu arolwg strwythurol i dystio bod y tô yn ddigon cryf i ddal yr arae solar;
- Gweithio gyda Scottish Power Energy Networks i wneud yn siŵr ei bod yn bosibl iddynt gysylltu â’r grid;
- Cynorthwyo gyda gwerthuso dyfynbrisiau ar gyfer y gosodiad;
- Helpu’r Siop i ddeall y manteision a’r costau ariannol fel y gallent godi arian;
- Darparu cysylltiadau â chynlluniau cymorth eraill megis swyddog ynni Cadwyn Clwyd.
Heriau Allweddol
Roedd angen arolwg strwythurol manwl i sicrhau cynhwysedd y tô i gynnal yr arae solar oherwydd pryderon strwythurol ynglŷn ag oedran yr adeilad. Roedd cymhlethdodau cyfreithiol, gan gynnwys cytundebau prydles a threfniadau benthyca, yn peri heriau ychwanegol.
Datrysion
Hwylusodd Cymru Effeithlon gyfathrebu â Scottish Power Energy Networks i sicrhau cysylltiad grid di-dor. Sicrhawyd cyllid trwy gyfuniad o grantiau lleol a benthyciadau di-log, gyda DEG yn arwain y cleient drwy’r broses ymgeisio.
Gweithredu a chanlyniadau
Er gwaethaf cyfyngiadau amser oherwydd dirywiad Tariff Cyflenwi Trydan oedd ar ddod, llwyddodd Siop Pwllglas i osod arae solar 12kW ar y tô. Costiodd y prosiect tua £14,500, gyda buddion disgwyliedig yn fwy na £55,000 dros 20 mlynedd.
Fe wnaeth y system ffotofoltäig solar haneru biliau trydan Siop Pwllglas tra’n cynhyrchu digon o incwm ychwanegol drwy’r cynllun Tariff Cyflenwi Trydan i dalu rhent y siop. Roedd y prosiect yn enghreifftio ymrwymiad y gymuned i gynaliadwyedd ac wedi grymuso sefydliadau eraill i gofleidio atebion ecogyfeillgar.
Beth ddywedodd Siop Pwllglas am y gefnogaeth a gawsant:
“Cenhadaeth Siop Pwllglas yw bod yn hunangynhaliol yn hytrach na dibynnu ar grantiau. Gyda gosod paneli solar, rydym un cam yn nes at gyflawni’r nod hwn. Gwelsom y tô fel ffordd werdd o leihau ein gorbenion yn ogystal â mwynhau incwm corfforol ychwanegol. ‘No-brainer’ a dweud y gwir.”
“Hoffwn ddweud ar ran Tîm Siop Pwllglas mor werthfawrogol a diolchgar am yr arbenigedd rhagorol a phroffesiynol a ddarperir gan Cymru Effeithlon. Roedd yn wasanaeth amhrisiadwy a reolir yn wych gan Grant Peisley, a hebddo ni fyddai’r gosodiad wedi dwyn ffrwyth.”
Safle wê Siop Pwllglas: https://www.sioppwllglas.co.uk/


