Moelyci
Moelyci
REDIRECT
REgional Development and Integration of unused biomass as REsources for Circular products and economic Transformation
Mae prosiect REDIRECT yn rhoddi cyfle i Gwm Harry gyd- weithio gyda phrosiect ewropeaidd, ar gynllun i adeiladu a gweithredu cynllun peilot ar raddfa ffarm yma yng Nghymru. Mae Ffarm Moelyci wedi ei benodi fel y safle, ymysg busnesau eraill gyda’r ryn nod, prosiect cynllunio ynni adnewyddiadwy , ochr yn ochr a phrosiect DEG.
Diben cynllun Redirect yw sefydlu busnes wedi ei leoli ar ffarm fydd yn anelu at wella rheolaeth tir, ychwanegu gwerth i biomas ymylol fel rhedyn a brwyn meddal a chreu tanwydd adnewyddiadwy yn lleol ac yng nghefn gwlad.
Os bydd y cynllun yn llwyddianus bydd y technoleg yn cael ei ledaenu allan ar draws Cymru.
Mae Redirect yn cael ei ariannu gan goffrau Undeb Ewropeaidd ac yn cyfuno gwaith 5 gwlad sef; Yr Almaen, Ffrainc, Gwlad Belg, Iwerddon a Phrydain. Bydd Redirect yn adeiladu ar lwyddiant cynllun INTERREG IVB a COMBINE.
