Cyfleusterau Cymunedol Cynaliadwy
Mae Cadwyn Clwyd (Asiantaeth Datblygu Gwledig) wedi ymuno â arbenigwyr ynni DEG (Datblygiadau Egni Gwledig) i gynnig 12 awdit ynni am ddim i sefydliadau cymunedol yn Sir Ddinbych sy’n rheoli adeiladau cymunedol.
Mae’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng costau byw yn cyflwyno heriau mawr i grwpiau cymunedol sy’n rhedeg adeiladau cymunedol angenrheidiol, megis neuaddau pentref a thref, clybiau chwaraeon a mentrau sy’n eiddo i’r gymuned.
Bydd yr archwiliadau ynni yma yn archwilio effeithlonrwydd ynni adeiladau, gan ddarparu adroddiad fydd yn cynnig cyngor ac argymhellion i helpu grwpiau cymunedol i leihau eu costau hirdymor a lleihau allyriadau carbon. Mae’r prosiect peilot hwn ar gael am amser byr yn unig. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â ni. Bydd angen i adeiladau cymwys fod wedi eu lleoli’n Sir Ddinbych ac yn gallu dangos eu bod yn gweithredu er budd y gymuned. Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais am awdit ynni e-bostiwch awditynni@DEG.cymru.


