Mae Prosiect Sero Net Gwynedd wedi dod i ben – am y tro. Am y 15 mis diwethaf, bu DEG yn gweithio fel rhan o bartneriaeth yn darparu cyngor i unigolion sy’n gwynebu tlodi tanwydd. Rydym yn dal i gynnig cymorth a chefnogaeth fel rhan o’n Gwasanaeth Ynni, ac rydym yn gallu gwneud asesiadau ynni ar dai ac adeladai cymunedol – cysylltwch hefo gwenno@deg.cymru am fanylion.
Dyma lond llaw o astudiaethau achos yn dangos effaith byd-go-iawn y prosiect:
Stori 1: Cwpl ifanc gyda phlentyn blwydd oed yn byw mewn tŷ cymdeithasol. Eu prif heriau oedd costau byw, dyled, a mesurydd (meter) trydan wedi torri.
Cyn ein cefnogaeth: Roedd y mesurydd trydan wedi ei dorri, gan achosi pryder am ddyled posib. Roeddent wedi talu’n ormodol am oriadau rhagdalu (prepayment keys) wrth aros iddo gael ei drwsio; proses a gymerodd fisoedd er gwaethaf eu hymdrechion i gysylltu â’r cyflenwr. Cafodd eu sefyllfa ei gyfrif fel “dim brys”, gan nad oedd eu cyflenwad trydan wedi stopio. Roedd amryw o ffactorau eraill yn achosi straen ariannol enfawr i’r teulu, a gafodd effaith ganlyniadol ar eu hiechyd meddwl.
Be wnaethom: Ymwelodd Swyddogion Ynni â’r teulu i ddechrau i helpu gyda’r mesurydd trydan wedi torri ac anfon cwyn at y cyflenwr amdano. Er iddynt anfon peiriannydd i osod Mesurydd Clyfar (Smart Meter), ni ellid ei wneud gan fod y tŷ yn anaddas. Yna cysylltodd y cleient â’r Ombwdsmon i ffeilio cwyn.
Rhoesom flanced gwresog i’r teulu a phecyn effeithlonrwydd ynni yn cynnwys taflenni gwybodaeth ar leithder, arbed ynni, a mesuryddion clyfar. Cawsant hefyd barsel bwyd gan Fanc Bwyd Arfon a thaleb tanwydd gwerth £96 gan y Fuel Bank Foundation i ychwanegu at eu mesurydd nwy. Gwnaethom eu cyfeirio at y Ganolfan Cyngor ar Bopeth am gymorth gyda dyledion yr oedd yn cael trafferth hefo, a gwnaethom gais am Daliad Cymorth Argyfwng drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol. Mi gafon nhw £111 drwy’r Gronfa.
Effaith: Cafodd ein cymorth sawl effaith bositif. Gorchmynnodd yr Ombwdsmon i’r darparwr trydan anfon peiriannydd i newid y mesurydd a oedd wedi torri, credydu’r cyfrif â’r arian a wariwyd ar oriadau rhagdalu, clirio unrhyw ddyledion hynach na 12 mis (nid oedd angen hyn gan ei fod yn troi allan nad oedd gan y cleient ddyledion), cymhwyso taliad methiant gwasanaeth safonol o £180, a thaliad ewyllys da o £150, yn ogystal â chyflwyno ymddiheuriad ffurfiol.
Adborth gan y Teulu: “Mae’r gefnogaeth gan swyddogion ynni DEG wedi cael hynod o effaith. Mae eu cyngor a’u harweiniad craff nid yn unig wedi fy helpu i ddeall fy nefnydd o ynni yn well ond hefyd wedi fy helpu i wneud dewisiadau callach a mwy cynaliadwy wrth symud ymlaen.
Gyda’u cymorth, rwy’n teimlo’n fwy hyderus yn fy rheolaeth ynni, ac rwyf eisoes wedi gweld newidiadau cadarnhaol… Diolch eto am eich cefnogaeth eithriadol. Rydych wir wedi gwneud gwahaniaeth, a ni fedrwn i fod yn fwy diolchgar.”
Stori 2: Cwpl o oedran pensiwn yn byw mewn tŷ sengl. Roedd eu prif heriau’n cynnwys tariffau ynni a darparwr llai nag optimaidd, yr eiddo heb ei gysylltu ag allforio ynni (Smart Export Guarantee = SEG), problemau technegol gyda’u mesurydd clyfar a monitro ynni cyffredinol, biliau ynni uchel, a diffyg trosglwyddo priodol ar ôl gosod mesurau effeithlonrwydd ynni.
Cyn Ein Cefnogaeth: Roedd y teulu wedi’u cymhwyso ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni amrywiol fel inswleiddio, pwmp gwres (ASHP), a PV solar trwy raglen ECO4. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith bod y mesurau hyn wedi’u gosod bron i flwyddyn ynghynt, nid oeddent wedi cael eu trosglwyddo’n briodol â chanllawiau ar sut i ddefnyddio’r technolegau newydd .
Er bod gan eu heiddo PV solar wedi’i osod ar y to (heb fatri), nid oeddent wedi’u cysylltu i dderbyn iawndal ariannol am ynni dros ben a allforiwyd drwy’r cynllun SEG . Roeddent hefyd ar dariff ynni is-optimaidd, gan arwain at filiau ynni cymharol uchel . At hynny, roedd gan y porth monitro ynni faterion technegol, gan arwain at ddata anghywir.
Be wnaethom: Ar ôl esbonio’r opsiynau gwahanol i’r teulu, fe wnaethom eu helpu i newid cyflenwr ynni’r teulu, gosod eu tariff ynni o gyfradd amrywiol i gyfradd sefydlog 12 mis. Hefyd, wnaethom gofrestru’r cartref ar gyfer iawndal ariannol drwy fesuryddion net ar gyfer unrhyw ynni dros ben a allforiwyd i’r grid drwy’r cynllun Gwarant Allforio Clyfar (SEG). Yn ogystal, buom yn cysylltu â darparwyr i helpu i ddatrys y problemau technegol o ran monitro ynni a chasglu data mesuryddion clyfar.
Newidiwyd y tariff SEG hefyd o 4c/kWh cychwynnol i gyfradd sefydlog o 15c/kWh, gan gynyddu eu hincwm blynyddol o SEG hyd at £2756. Fe wnaethom hefyd eu helpu i werthuso’r posibilrwydd o ddewis storio ynni ar y safle (batri) gyda thariffau ynni ystwyth priodol. Cawsant gyngor ar ynni a grantiau ar y safle, ynghyd ag awgrymiadau newid ymddygiad, bwlb LED, a phecyn gwybodaeth hygyrch dwyieithog yn ymdrin â phynciau fel anwedd, cyllid grant, strategaethau gwresogi, a mesuryddion clyfar. Buom hefyd yn trafod manteision systemau ynni lleol clyfar a rhoi cyngor ar eu pwmp gwres.
Effaith: Cafodd y cymorth a ddarparwyd gan Brosiect Sero Net Gwynedd effaith sylweddol: roedd eu biliau ynni wedi gostwng o bosibl £131.8 y flwyddyn, gydag incwm posibl o allforio ynni gormodol SEG yn amrywio o £100-375 y flwyddyn. Profodd y cartref fwy o wydnwch ynni a hunangynhaliaeth a dywedodd eu bod yn teimlo “llai o straen” ynghylch rheoli eu defnydd o ynni.
Adborth gan y Teulu: “Mae’r cyngor a’r gefnogaeth a gawsom wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Roeddem yn synnu clywed bod hwn yn wasanaeth hollol rhad ac am ddim! Dylid cefnogi’r math hwn o waith yn barhaus.”
–
Stori 3: Teulu o bedwar oedolyn sy’n byw mewn Tŷ Rhestredig Gradd 2 teras pen. Eu prif heriau oedd defnydd uchel o ynni, gan eu hysgogi i ofyn am ymweliad cartref i ddadansoddi biliau ac arolwg effeithlonrwydd ynni, yn arwain wedyn at adroddiad.
Cyn Ein Cymorth: Teimlai’r teulu eu bod yn talu gormod am eu hynni a gofynnwyd am gyngor ar newid tariffau, cael mesurydd clyfar, a ph’un ai i osod eu tariff neu aros ar y cap pris. Oherwydd cyfyngiadau cynllunio sy’n gysylltiedig â’u hadeilad rhestredig, roeddent yn ansicr ynghylch mesurau effeithlonrwydd ynni posibl. Roedd y teulu’n awyddus i archwilio’r grantiau sydd ar gael ar gyfer gwelliannau sylweddol i eiddo yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni ac i nodi’r ardaloedd lleiaf ynni-effeithlon o’u cartrefi, ynghyd ag atebion posibl.
Be wnaethom: Ymwelon ni â’r teulu i ddarparu dadansoddiad o filiau a rhoi cyngor. Holwyd am addasrwydd eu heiddo ar gyfer mesurydd clyfar, o ystyried trwch y waliau. Cawsant sesiwn cyngor ar grantiau, a chynhaliom arolwg effeithlonrwydd ynni ar eu heiddo. Yn dilyn yr arolwg, fe wnaethom gynhyrchu a rhannu adroddiad effeithlonrwydd ynni. Eglurom ganfyddiadau’r adroddiad a darparu rhai eitemau cost isel, gan gynnwys hygrometer (mesur moisture yn yr aer i helpu gyda lleithder), seliau sychu, ac amserydd, i fynd i’r afael â rhai o’r problemau.
Effaith: Er mai dim ond ychydig fisoedd o ddata oedd ar gael, teimlai’r cleient ei fod yn defnyddio tua 5% yn llai o ynni o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn gynt. Dwedon hefyd fod y tŷ yn teimlo’n llawer cynhesach am gyfnod hirach ar ôl gweithredu’r mesurau effeithlonrwydd ynni. O ganlyniad i’n cyngor, mae’r cleient yn y broses o newid cyflenwr a gosod eu tariff. Yn arwyddocaol, o gymharu â’r flwyddyn gynt, nid oedd angen iddynt bellach ddefnyddio gwresogydd arall llawn olew yn y gegin wrth weithio gartref, ac maent bellach wedi newid yr holl fylbiau golau yn y tŷ i LEDs.
Adborth gan y Teulu: “Mae’r cyngor wedi bod yn llawer haws i’w ddilyn nag oeddwn i’n meddwl y byddai… Mae’r tŷ bellach yn teimlo’n llawer cynhesach. Hefyd, cyngor i ddefnyddio llen a bleind i arbed gwres ar ffenestr… Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i’r ystafell wely, ac nid yw wedi costio dim byd bron.”
Tynnodd y Swyddog Ynni sylw at y ffaith bod y peiriant awyru yn y gegin yn gadael gwynt oer i mewn… Does dim arian i’w newid, ond rydw i wedi ei dapio i fyny dros dro, a nawr mae’r gegin yn llawer cynhesach o ganlyniad!… Rwy’n teimlo bod y prosiect wedi fy helpu llawer i wario fy arian yn fwy effeithiol ar wneud y pethau llai, sydd wedi cael effaith pelen eira ar ein defnydd o ynni. Rwyf hefyd yn teimlo ei bod yn wych bod cymorth ar gael i deuluoedd fel ni, nad ydynt yn gymwys ar gyfer grantiau ond na allant fforddio gwario llawer o arian ar bethau arbed ynni drud fel paneli solar!”
–
Dyfyniadau gan bobl eraill a gafodd gymorth drwy Brosiect Sero Net Gwynedd:
“Mae’r gefnogaeth a roddwyd i mi gan y Swyddogion Ynni drwy PSNG wedi bod yn impressive iawn, mae fy nhŷ cyfan bellach yn gynnes ac yn glyd ar gyfradd fforddiadwy. Roedd y cymorth a roddwyd gan y Swyddog Ynni yn amhrisiadwy ac mae fy agwedd at y dyfodol bellach yn llawer mwy positif. Rwy’n agosáu at oedran ymddeol ac mae’r meddwl am dreulio mwy o fy amser yn y tŷ oer hwnnw’n fy mhoeni. Ond o ganlyniad i’r cymorth a roddwyd i mi, ‘dw i’n edrych ymlaen i ymddeol yn gwybod mod i’n gallu fforddio bod adref mewn amgylchedd cynnes!”
“Diolch o waelod fy nghalon, rydych chi a’r hwb [Hwb Ogwen] wedi fy helpu gymaint. Diolch am arbed arian i mi ar fy mil trydan a delio â’r problemau oedd gen i!”
–
Er bod Prosiect Sero Net Gwynedd wedi dod i ben, mae ein Swyddogion Ynni yn dal ar gael i roi cyngor ar filiau ynni, mesurau effeithlonrwydd ynni a’ch helpu i wneud eich cartref yn fwy clyd. Mae gennym hefyd staff ar gael i gwblhau Asesiadau Ôl-osod ar adeiladau domestig ac annomestig fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol – cysylltwch â gwenno@deg.cymru am ragor o wybodaeth.


