Postiwyd ar

Edrych tuag at y dyfodol: Gweithio gyda Llywodraeth Cymru newydd

Ar ôl cyfnod hir o ddadleuon, cyfarfodydd etholiadol, trafodaethau teledu a sgyrsiau cymunedol, mae gan Gymru Lywodraeth newydd bellach. Fel mudiad dan arweiniad y gymuned a menter gymdeithasol sy’n gweithio yng nghanol cymunedau ledled gogledd-orllewin Cymru, rydym hoffi cymryd y cyfle hwn i longyfarch Plaid Cymru ar eu llwyddiant.

Ond fel mae pobl ledled y wlad yn cydnabod, mae’r gwaith go iawn yn dechrau rŵan. I DEG a GwyrddNi, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth newydd nid yn unig yn sefyll wrth ei hymrwymiadau maniffesto, ond yn mynd ymhellach, gan sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn cael eu cefnogi’n briodol i arwain y newid i ddyfodol tecach, mwy gwyrdd a mwy gwydn.

Yn DEG, rydym yn adnabyddus am ein cysylltiadau dwfn â chymunedau ledled gogledd-orllewin Cymru, yn cefnogi pobl i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, defnyddio ynni’n fwy effeithlon, a sicrhau bod manteision y gwaith hwnnw’n aros yn lleol. Fel y sefydliad sy’n cynnal mudiad GwyrddNi, rydym yn gweld bob dydd pa mor bwerus y gall gweithredu hinsawdd dan arweiniad y gymuned fod pan gaiff ei gefnogi’n briodol.

Felly, rydym yn cael ein calonogi i weld elfennau o’r gwaith hanfodol hwn yn cael eu hadlewyrchu yn yr ymrwymiadau maniffesto a nodwyd gan Blaid Cymru fel y Llywodraeth newydd, gan gynnwys:

  • Cefnogaeth i ynni cymunedol a pherchnogaeth leol: cydnabod y rôl y gall cymunedau chwarae wrth lunio system ynni tecach.
  • Targed Sero Net mwy uchelgeisiol ar gyfer 2040: arwydd o fwriad i gyflymu trawsnewidiad Cymru.
  • Cronfa Cyfoeth Cymru arfaethedig: gyda’r potensial i ail-fuddsoddi elw ynni adnewyddadwy yn ôl mewn cymunedau.
  • Cefnogaeth i hawl cymunedol i brynu: cryfhau rheolaeth leol dros dir ac asedau.
  • Pwyslais ar gaffael lleol a busnesau sy’n eiddo i Gymru: cadw gwerth yn cylchredeg o fewn ein cymunedau.
  • Cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd yn cefnogi lles cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd hirdymor.

Mae’r rhain yn gamau ystyrlon i’r cyfeiriad cywir ar gyfer y math o waith a welwn bob dydd ar draws cefn gwlad ogledd-orllewin Cymru. Gwaith sy’n dangos sut y gall gweithredu ar yr hinsawdd gryfhau cymunedau, lleihau bregusrwydd a meithrin gwydnwch lleol.

Er bod yr ymrwymiadau hyn yn nodi symudiad croesawgar i’r cyfeiriad cywir, mae ein profiad ein hunain a’r galwadau clir o bob rhan o’r sector ynni cymunedol a hinsawdd yng Nghymru yn dangos bod angen mesurau pellach o hyd er mwyn i weithredu ar yr hinsawdd dan arweiniad y gymuned ffynnu’n wirioneddol:

  • Deddf Ynni Cymunedol: i ymgorffori perchnogaeth leol yn y gyfraith a rhoi’r sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar gymunedau i fuddsoddi ac arwain.
  • Eglurdeb ar fecanweithiau fel yr Ardoll Adnoddau Naturiol: gan sicrhau bod offer codi refeniw o fudd gwirioneddol i’r cymunedau sy’n cynnal cynhyrchu adnewyddadwy.

Nodwn fod y weinyddiaeth newydd wedi dewis peidio â phenodi gweinidogion pwrpasol ar gyfer yr hinsawdd, yr amgylchedd a bywyd gwyllt, gan ymgorffori’r meysydd hyn mewn briff gwledig sydd eisoes yn sylweddol. Ynghyd â’n partneriaid ledled Cymru, byddwn yn parhau i hyrwyddo cyflawni addewidion y maniffesto ac yn pwysleisio sut y byddai gweinidog pwrpasol dros yr amgylchedd yn cryfhau gallu’r Llywodraeth i wireddu ei hymrwymiadau.

Fel eiriolwyr hirdymor dros gymunedau ledled gogledd-orllewin Cymru, rydym yn croesawu’r cyfle i weithio gyda’r Llywodraeth newydd i gefnogi cyflawni’r ymrwymiadau hyn. Mae gwaith DEG, a mudiad ehangach GwyrddNi, bob amser wedi canolbwyntio ar aml-ddatrys: sicrhau bod gwydnwch economaidd, lles cymunedol, stiwardiaeth amgylcheddol a bywiogrwydd diwylliannol yn atgyfnerthu ei gilydd. Byddwn yn parhau i bwyso am bolisïau sy’n gwneud y dull integredig hwn yn haws, yn gliriach ac yn fwy cyraeddadwy i gymunedau gwledig, ac rydym yn barod i weithio gyda Gweinidogion, swyddogion a phartneriaid i droi’r uchelgeisiau hyn yn fuddion pendant i bobl ogledd-orllewin Cymru.

Postiwyd ar

Canlyniadau Ein Hadroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad

Canlyniadau Ein Hadroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad

Yma yn DEG, rydym yn angerddol am greu gwerth parhaol i’n cymunedau yng ngogledd-orllewin Cymru. Y llynedd, pan gawsom ein pen-blwydd yn 10 oed, roeddem eisiau gwybod faint o werth yr oeddem wedi’i greu. Faint o wahaniaeth yr oeddem yn ei wneud go iawn?

Dyna pam y gwnaethom gomisiynu adroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) trwy Werth Cymdeithasol Cymru. Mae’r adroddiad yn rhoi darlun clir i ni o’r enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad o’r hyn y mae tîm DEG yn ei wneud; hynny yw, effeithiau ariannol, emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol gwirioneddol ein gwaith.

Canlyniadau Allweddol o’r Adroddiad

Darganfyddodd yr adroddiad:

1. Enillion ar Fuddsoddiad: Am bob £1 a fuddsoddwyd ym mhrosiectau DEG (o gyllid grant neu ffynonellau eraill), cynhyrchwyd £3.58 o werth cymdeithasol.

Mae gwerth cymdeithasol yn cynnwys arbedion arian go iawn i gymunedau; ond hefyd gwelliannau mewn lles, mwy o wybodaeth, mynediad at wasanaethau, a photensial ar gyfer cynhyrchu incwm yn y dyfodol.

2. Drwy Brosiect Sero Net Gwynedd y llynedd, cefnogodd Gwasanaeth Ynni DEG 659 o unigolion, llawer ohonynt yn wynebu tlodi tanwydd. Arweiniodd cyngor a chefnogaeth ein Swyddogion Ynni at:

  • Dros £35,000 wedi ei arbed yn uniongyrchol
  • 100% o’r unigolion a holwyd yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy gwybodus am effeithlonrwydd ynni
  • 100% yn nodi llai o straen ynghylch biliau ynni

3. Adroddodd aelodau’r gymuned yn ein cymunedau GwyrddNi eu bod yn teimlo’n fwy cysylltiedig â’u cymdogion, gyda 76% yn nodi ymdeimlad cryfach o gymuned a 66% yn mynegi mwy o obaith am y dyfodol.

4. Drwy Cyd Ynni, gweithiodd DEG yn agos gyda grwpiau cymunedol i wella cynaliadwyedd ariannol a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy. Helpodd hyn i gynhyrchu £518,000 mewn grantiau i adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy.

    5. Cynaliadwyedd a Manteision Hirdymor. Rhagwelir y bydd y prosiectau ynni adnewyddadwy yr ydym wedi’u cefnogi yn:

    • Cynhyrchu dros £4.7 miliwn ar gyfer cymunedau lleol dros y 25 mlynedd nesaf.
    • Yn arwain at arbedion carbon o 7,632.5 tunnell dros 25 mlynedd (yn gyfateb i dynnu tua 200 o geir oddi ar y ffyrdd neu blannu 30,000 o goed).
    • Cynhyrchu 1,582,000 kWh o drydan adnewyddadwy yn flynyddol, neu ddigon i bweru 585 o gartrefi cyffredin.

    Beth mae hyn yn ei olygu

    Mae’r canfyddiadau gan yr adroddiad yn cadarnhau bod ein gwaith yn darparu gwerth gwirioneddol am yr arian sydd wedi ei fuddsoddi. Mae ganddo effaith sy’n ymestyn yn bell: o helpu cymunedau i deimlo’n rymus, i leihau straen pobl ynghylch biliau ynni.

    “Mae DEG wedi ceisio creu mwy na gwerth economaidd yn unig drwy ein gwaith erioed — mae effaith gymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr un mor bwysig i ni. Gyda chymorth Gwerth Cymdeithasol Cymru, gallwn nawr ddweud yn hyderus bod yr hyn a wnawn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i unigolion a chymunedau ledled gogledd-orllewin Cymru,” meddai Grant Peisley, cyfarwyddwr DEG.

    “Mae gweld effaith pendant ein gwaith yn yr adroddiad hwn yn werthfawr iawn. Mae’n rhoi tystiolaeth y tu ôl i’r hyn yr ydym wedi’i gredu erioed – pan fyddwn yn buddsoddi mewn pobl a chymunedau, mae’r enillion yn mynd ymhell y tu hwnt i bunnoedd a cheiniogau. Maent yn dod yn ôl fel lleoedd cryfach, mwy hyderus, a mwy cysylltiedig i fyw. Nid yn y rhifau yn unig y mae gwir werth beth rydym yn ei wneud – mae o mewn helpu pobl i deimlo’n gynhesach, yn fwy gobeithiol, ac yn fwy grymus i lunio eu dyfodol eu hunain.

    Mae canfyddiadau ein hadroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad hefyd yn rhoi hyder i’n harianwyr – gan ddangos bod pob punt a fuddsoddir yn DEG yn cynhyrchu mwy na thair gwaith ei werth trwy’r gwaith y mae ein tîm yn ei gyflawni. Mae’n dyst i ymroddiad, penderfyniad a sgiliau pawb yn DEG ein bod yn parhau i gyflawni canlyniadau mor drawiadol a chyflwyno newid ystyrlon i’r bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.”

    Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n edrych i leihau eich biliau ynni, lleihau eich ôl troed carbon neu gynhyrchu eich pŵer eich hun, neu os ydych chi’n chwilio am gyngor i lywio byd cymhleth ynni ac ynni adnewyddadwy – cysylltwch â ni!

    Postiwyd ar

    DEG yn derbyn gwobr Menter Gymdeithasol Amgylcheddol y Flwyddyn

    DEG yn derbyn gwobr Menter Gymdeithasol Amgylcheddol y Flwyddyn

    Roedd o’n fraint i ni yn DEG i dderbyn gwobr Menter Gymdeithasol Amgylcheddol y Flwyddyn 2025 ar y 9fed o Hydref fel rhan o’r Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru.

    Mae’r gwobrau, a ddenodd record o 101 o geisiadau eleni, yn dathlu’r gorau o sector mentrau cymdeithasol Cymru – busnesau sy’n defnyddio eu helw a’u hymdrechion er budd pobl a’r blaned, ac gryfhau cymunedau lleol.

    Roedd hi’n ysbrydoliaeth i glywed am waith pwysig y sefydliadau i gyd yn y seremoni hyfryd a drefnwyd gan Cwmpas yn Neuadd Maesteg.

    Trefnir gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru gan Cwmpas, ochr yn ochr â CYD Cymru, Social Firms Wales, UnLtd, CGGC, wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r categori Menter Gymdeithasol Amgylcheddol y Flwyddyn 2025 yn dathlu sefydliadau lle mae taclo materian amgylcheddoll yn ran craidd o’u gwaith.

    Mwy o Business News Wales

    Mae’r wobr hon yn atgof pwerus o gryfder cyfunol ein partneriaid, ein rhwydwaith, a’r cymunedau anhygoel ledled Cymru sy’n ymroddedig i gyflawni dyfodol gwydn, carbon isel, lle mae cymunedau’n cefnogi ei gilydd ac yn cymryd perchnogaeth o’u hasedau.

    Rhian, Gwenno a Grant ym Maesteg
    Grant yn mynd i dderbyn y wobr
    Y wobr!

    Postiwyd ar

    Helpu pobl i arbed arian a cadw’n gynnes – Adborth o Brosiect Sero Net Gwynedd

    Mae Prosiect Sero Net Gwynedd wedi dod i ben – am y tro. Am y 15 mis diwethaf, bu DEG yn gweithio fel rhan o bartneriaeth yn darparu cyngor i unigolion sy’n gwynebu tlodi tanwydd. Rydym yn dal i gynnig cymorth a chefnogaeth fel rhan o’n Gwasanaeth Ynni, ac rydym yn gallu gwneud asesiadau ynni ar dai ac adeladai cymunedol – cysylltwch hefo gwenno@deg.cymru am fanylion.

    Dyma lond llaw o astudiaethau achos yn dangos effaith byd-go-iawn y prosiect:

    Stori 1: Cwpl ifanc gyda phlentyn blwydd oed yn byw mewn tŷ cymdeithasol. Eu prif heriau oedd costau byw, dyled, a mesurydd (meter) trydan wedi torri.

    Cyn ein cefnogaeth: Roedd y mesurydd trydan wedi ei dorri, gan achosi pryder am ddyled posib. Roeddent wedi talu’n ormodol am oriadau rhagdalu (prepayment keys) wrth aros iddo gael ei drwsio; proses a gymerodd fisoedd er gwaethaf eu hymdrechion i gysylltu â’r cyflenwr. Cafodd eu sefyllfa ei gyfrif fel “dim brys”, gan nad oedd eu cyflenwad trydan wedi stopio. Roedd amryw o ffactorau eraill yn achosi straen ariannol enfawr i’r teulu, a gafodd effaith ganlyniadol ar eu hiechyd meddwl.

    Be wnaethom: Ymwelodd Swyddogion Ynni â’r teulu i ddechrau i helpu gyda’r mesurydd trydan wedi torri ac anfon cwyn at y cyflenwr amdano. Er iddynt anfon peiriannydd i osod Mesurydd Clyfar (Smart Meter), ni ellid ei wneud gan fod y tŷ yn anaddas. Yna cysylltodd y cleient â’r Ombwdsmon i ffeilio cwyn.

    Rhoesom flanced gwresog i’r teulu a phecyn effeithlonrwydd ynni yn cynnwys taflenni gwybodaeth ar leithder, arbed ynni, a mesuryddion clyfar. Cawsant hefyd barsel bwyd gan Fanc Bwyd Arfon a thaleb tanwydd gwerth £96 gan y Fuel Bank Foundation i ychwanegu at eu mesurydd nwy. Gwnaethom eu cyfeirio at y Ganolfan Cyngor ar Bopeth am gymorth gyda dyledion yr oedd yn cael trafferth hefo, a gwnaethom gais am Daliad Cymorth Argyfwng drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol. Mi gafon nhw £111 drwy’r Gronfa.

    Effaith: Cafodd ein cymorth sawl effaith bositif. Gorchmynnodd yr Ombwdsmon i’r darparwr trydan anfon peiriannydd i newid y mesurydd a oedd wedi torri, credydu’r cyfrif â’r arian a wariwyd ar oriadau rhagdalu, clirio unrhyw ddyledion hynach na 12 mis (nid oedd angen hyn gan ei fod yn troi allan nad oedd gan y cleient ddyledion), cymhwyso taliad methiant gwasanaeth safonol o £180, a thaliad ewyllys da o £150, yn ogystal â chyflwyno ymddiheuriad ffurfiol.

    Adborth gan y Teulu: “Mae’r gefnogaeth gan swyddogion ynni DEG wedi cael hynod o effaith. Mae eu cyngor a’u harweiniad craff nid yn unig wedi fy helpu i ddeall fy nefnydd o ynni yn well ond hefyd wedi fy helpu i wneud dewisiadau callach a mwy cynaliadwy wrth symud ymlaen.

    Gyda’u cymorth, rwy’n teimlo’n fwy hyderus yn fy rheolaeth ynni, ac rwyf eisoes wedi gweld newidiadau cadarnhaol… Diolch eto am eich cefnogaeth eithriadol. Rydych wir wedi gwneud gwahaniaeth, a ni fedrwn i fod yn fwy diolchgar.”

    Stori 2: Cwpl o oedran pensiwn yn byw mewn tŷ sengl. Roedd eu prif heriau’n cynnwys tariffau ynni a darparwr llai nag optimaidd, yr eiddo heb ei gysylltu ag allforio ynni (Smart Export Guarantee = SEG), problemau technegol gyda’u mesurydd clyfar a monitro ynni cyffredinol, biliau ynni uchel, a diffyg trosglwyddo priodol ar ôl gosod mesurau effeithlonrwydd ynni.

    Cyn Ein Cefnogaeth: Roedd y teulu wedi’u cymhwyso ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni amrywiol fel inswleiddio, pwmp gwres (ASHP), a PV solar trwy raglen ECO4. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith bod y mesurau hyn wedi’u gosod bron i flwyddyn ynghynt, nid oeddent wedi cael eu trosglwyddo’n briodol â chanllawiau ar sut i ddefnyddio’r technolegau newydd .

    Er bod gan eu heiddo PV solar wedi’i osod ar y to (heb fatri), nid oeddent wedi’u cysylltu i dderbyn iawndal ariannol am ynni dros ben a allforiwyd drwy’r cynllun SEG . Roeddent hefyd ar dariff ynni is-optimaidd, gan arwain at filiau ynni cymharol uchel . At hynny, roedd gan y porth monitro ynni faterion technegol, gan arwain at ddata anghywir.

    Be wnaethom: Ar ôl esbonio’r opsiynau gwahanol i’r teulu, fe wnaethom eu helpu i newid cyflenwr ynni’r teulu, gosod eu tariff ynni o gyfradd amrywiol i gyfradd sefydlog 12 mis. Hefyd, wnaethom gofrestru’r cartref ar gyfer iawndal ariannol drwy fesuryddion net ar gyfer unrhyw ynni dros ben a allforiwyd i’r grid drwy’r cynllun Gwarant Allforio Clyfar (SEG). Yn ogystal, buom yn cysylltu â darparwyr i helpu i ddatrys y problemau technegol o ran monitro ynni a chasglu data mesuryddion clyfar.

    Newidiwyd y tariff SEG hefyd o 4c/kWh cychwynnol i gyfradd sefydlog o 15c/kWh, gan gynyddu eu hincwm blynyddol o SEG hyd at £2756. Fe wnaethom hefyd eu helpu i werthuso’r posibilrwydd o ddewis storio ynni ar y safle (batri) gyda thariffau ynni ystwyth priodol. Cawsant gyngor ar ynni a grantiau ar y safle, ynghyd ag awgrymiadau newid ymddygiad, bwlb LED, a phecyn gwybodaeth hygyrch dwyieithog yn ymdrin â phynciau fel anwedd, cyllid grant, strategaethau gwresogi, a mesuryddion clyfar. Buom hefyd yn trafod manteision systemau ynni lleol clyfar a rhoi cyngor ar eu pwmp gwres.

    Effaith: Cafodd y cymorth a ddarparwyd gan Brosiect Sero Net Gwynedd effaith sylweddol: roedd eu biliau ynni wedi gostwng o bosibl £131.8 y flwyddyn, gydag incwm posibl o allforio ynni gormodol SEG yn amrywio o £100-375 y flwyddyn. Profodd y cartref fwy o wydnwch ynni a hunangynhaliaeth a dywedodd eu bod yn teimlo “llai o straen” ynghylch rheoli eu defnydd o ynni.

    Adborth gan y Teulu: “Mae’r cyngor a’r gefnogaeth a gawsom wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Roeddem yn synnu clywed bod hwn yn wasanaeth hollol rhad ac am ddim! Dylid cefnogi’r math hwn o waith yn barhaus.”

    Stori 3: Teulu o bedwar oedolyn sy’n byw mewn Tŷ Rhestredig Gradd 2 teras pen. Eu prif heriau oedd defnydd uchel o ynni, gan eu hysgogi i ofyn am ymweliad cartref i ddadansoddi biliau ac arolwg effeithlonrwydd ynni, yn arwain wedyn at adroddiad.

    Cyn Ein Cymorth: Teimlai’r teulu eu bod yn talu gormod am eu hynni a gofynnwyd am gyngor ar newid tariffau, cael mesurydd clyfar, a ph’un ai i osod eu tariff neu aros ar y cap pris. Oherwydd cyfyngiadau cynllunio sy’n gysylltiedig â’u hadeilad rhestredig, roeddent yn ansicr ynghylch mesurau effeithlonrwydd ynni posibl. Roedd y teulu’n awyddus i archwilio’r grantiau sydd ar gael ar gyfer gwelliannau sylweddol i eiddo yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni ac i nodi’r ardaloedd lleiaf ynni-effeithlon o’u cartrefi, ynghyd ag atebion posibl.

    Be wnaethom: Ymwelon ni â’r teulu i ddarparu dadansoddiad o filiau a rhoi cyngor. Holwyd am addasrwydd eu heiddo ar gyfer mesurydd clyfar, o ystyried trwch y waliau. Cawsant sesiwn cyngor ar grantiau, a chynhaliom arolwg effeithlonrwydd ynni ar eu heiddo. Yn dilyn yr arolwg, fe wnaethom gynhyrchu a rhannu adroddiad effeithlonrwydd ynni. Eglurom ganfyddiadau’r adroddiad a darparu rhai eitemau cost isel, gan gynnwys hygrometer (mesur moisture yn yr aer i helpu gyda lleithder), seliau sychu, ac amserydd, i fynd i’r afael â rhai o’r problemau.

    Effaith: Er mai dim ond ychydig fisoedd o ddata oedd ar gael, teimlai’r cleient ei fod yn defnyddio tua 5% yn llai o ynni o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn gynt. Dwedon hefyd fod y tŷ yn teimlo’n llawer cynhesach am gyfnod hirach ar ôl gweithredu’r mesurau effeithlonrwydd ynni. O ganlyniad i’n cyngor, mae’r cleient yn y broses o newid cyflenwr a gosod eu tariff. Yn arwyddocaol, o gymharu â’r flwyddyn gynt, nid oedd angen iddynt bellach ddefnyddio gwresogydd arall llawn olew yn y gegin wrth weithio gartref, ac maent bellach wedi newid yr holl fylbiau golau yn y tŷ i LEDs.

    Adborth gan y Teulu:Mae’r cyngor wedi bod yn llawer haws i’w ddilyn nag oeddwn i’n meddwl y byddai… Mae’r tŷ bellach yn teimlo’n llawer cynhesach. Hefyd, cyngor i ddefnyddio llen a bleind i arbed gwres ar ffenestr… Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth i’r ystafell wely, ac nid yw wedi costio dim byd bron.”

    Tynnodd y Swyddog Ynni sylw at y ffaith bod y peiriant awyru yn y gegin yn gadael gwynt oer i mewn… Does dim arian i’w newid, ond rydw i wedi ei dapio i fyny dros dro, a nawr mae’r gegin yn llawer cynhesach o ganlyniad!… Rwy’n teimlo bod y prosiect wedi fy helpu llawer i wario fy arian yn fwy effeithiol ar wneud y pethau llai, sydd wedi cael effaith pelen eira ar ein defnydd o ynni. Rwyf hefyd yn teimlo ei bod yn wych bod cymorth ar gael i deuluoedd fel ni, nad ydynt yn gymwys ar gyfer grantiau ond na allant fforddio gwario llawer o arian ar bethau arbed ynni drud fel paneli solar!”

    Dyfyniadau gan bobl eraill a gafodd gymorth drwy Brosiect Sero Net Gwynedd:

    “Mae’r gefnogaeth a roddwyd i mi gan y Swyddogion Ynni drwy PSNG wedi bod yn impressive iawn, mae fy nhŷ cyfan bellach yn gynnes ac yn glyd ar gyfradd fforddiadwy. Roedd y cymorth a roddwyd gan y Swyddog Ynni yn amhrisiadwy ac mae fy agwedd at y dyfodol bellach yn llawer mwy positif. Rwy’n agosáu at oedran ymddeol ac mae’r meddwl am dreulio mwy o fy amser yn y tŷ oer hwnnw’n fy mhoeni. Ond o ganlyniad i’r cymorth a roddwyd i mi, ‘dw i’n edrych ymlaen i ymddeol yn gwybod mod i’n gallu fforddio bod adref mewn amgylchedd cynnes!”

    “Diolch o waelod fy nghalon, rydych chi a’r hwb [Hwb Ogwen] wedi fy helpu gymaint. Diolch am arbed arian i mi ar fy mil trydan a delio â’r problemau oedd gen i!”

    Er bod Prosiect Sero Net Gwynedd wedi dod i ben, mae ein Swyddogion Ynni yn dal ar gael i roi cyngor ar filiau ynni, mesurau effeithlonrwydd ynni a’ch helpu i wneud eich cartref yn fwy clyd. Mae gennym hefyd staff ar gael i gwblhau Asesiadau Ôl-osod ar adeiladau domestig ac annomestig fel clybiau chwaraeon a neuaddau cymunedol – cysylltwch â gwenno@deg.cymru am ragor o wybodaeth.

    Postiwyd ar

    Blwyddyn o Weithredu Hinsawdd Gymunedol hefo GwyrddNi

    Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi ei leoli yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd. Mae’n cael ei ddarparu gan DEG, Partneriaeth Ogwen, Cyd YnniYr OrsafCwmni Bro ac Ynni Llŷn a’r ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

    Dyma ddiweddariad gan y tîm:

    Wel, am flwyddyn – o fapio mwsog i gaffis trwsio, ac o blannu llysiau i wneud cartrefi’n fwy cynnes… a dim ond y dechrau ydi hynny!

    Fel y gwyddoch mae’n siŵr, cychwynnodd ein taith gyda’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn 2022-2023, lle daeth trigolion ar draws ein pum ardal yng Ngwynedd ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol mwy gwyrdd. Yn dilyn hyn, roedd GwyrddNi yn falch iawn o dderbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ein galluogi i ddechrau dod â syniadau ysbrydoledig ein cymuneddau – sydd wedi eu dal yn ein Cynlluniau Gweithredu – yn fyw.

    Nododd hyn ddechrau’r “Cyfnod Gweithredu Cymunedol” – amser ar gyfer rhoi cynlluniau ar waith.

    Ers hynny, mae egni ac angerdd ein cymunedau wedi bod yn ysbrydoledig. Mae rhai grwpiau wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers y Cynulliadau, gan gymryd yr awenau i sicrhau eu cyllid eu hunain. Mae eraill wedi gweithio gyda Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi, gan dderbyn cefnogaeth a chyllid sbarduno i roi cychwyn ar eu prosiectau.

    Rydym wedi creu’r adroddiad hwn i rannu blas o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd, sut mae ein cymunedau’n teimlo am gefnogaeth GwyrddNi hyd yn hyn, ac i rannu rhai o’r gwersi rydym wedi’u dysgu gyda’n gilydd:

    GwyrddNi: Adlewyrchu ar 2024: Darllenwch yr adroddiad fel llyfr “fflipio” neu fel PDF statig.

    Dyma rai uchafbwyntiau o’r flwyddyn:

    • Yn Nyffryn Nantlle, mae’r Cwt Piclo yn cael ei hadeiladu ac mae sawl cyfarfod a gweithdy eisoes wedi’u cynnal ar sut i gadw a phiclo bwyd.
    • Yn Nyffryn Ogwen, mae tîm Mapio Mwsog wedi cynnal sawl taith gerdded mwsogl ac yn y broses o greu eu map mwsog.
    • Hyd yn hyn eleni rydym wedi gweithio gyda 17 o ysgolion, gyda chyfanswm o 957 o ymgyllystiadau. Rydym yn dal i weithio hefo sawl ysgol ar ddod a syniadau’r plant yn fyw, hefo sawl artist lleol yn ymuno hefo ni’n fuan ar brosiect Ysgolion Creadigol.
    • Neidiodd nifer y plant a ddywedodd y byddent yn hyderus iawn yn esbonio i rywun arall beth oedd newid hinsawdd o 17% cyn ein sesiynau i 84% ar ôl ein sesiynau. Fe wnaethom hefyd helpu un ysgol i ennill Gwobr Aur Ysgolion Eco!
    • Mae ein hwylusydd yn Nyffryn Peris wedi helpu i drefnu pobl a chyllid i sefydlu Partneriaeth Dyffryn Peris newydd, gan gynnwys rhentu gofod swyddfa a rhedeg prosiect i edrych ar anghenion tai lleol.
    • Gwelodd cyfnewidfa gwisg ysgol Bro Ffestiniog i fyny at 300kg o wisgoedd ysgol yn cael eu rhoddi a’u hailgartrefu, gyda phrosiectau tebyg yn digwydd ar draws yr ardaloedd eraill.
    • Sefydlwyd Hwb Beics ym Mhen Llŷn, hefo dros 40 o bobl hyd yn hyn wedi cael profiad positif iawn o fenthyg beic trydan a’i ddefnyddio i fynd i’r gwaith.
    • Ym mis Mai, mynychodd o leiaf 60 o bobl yr Ŵyl Hinsawdd yn Nyffryn Ogwen – roedd teithiau natur, gweithdai, darlithoedd a llawer mwy.
    • Ffurfiwyd Rhwydwaith Datgarboneiddio, gan ddod ag aelodau o bob un o’r 5 cymuned ynghyd. Mae’r grŵp wedi ymweld ag ychydig o adeiladau sydd wedi cael eu hôl-osod, ac mae mwy ar y gweill yn fuan.
    • Mae Ynni Lleu newydd gael ei ailsefydlu fel cwmni budd cymunedol gydag aelodau’r gymuned wrth y llyw. Mae’n bosibl y bydd astudiaeth fapio ar y potensial ar gyfer cynhyrchu ynni glân yn Nyffryn Nantlle ar y gweill yn fuan.
    • Rydym wedi bod yn cefnogi gerddi megis Maes-y-Plas (Blaenau Ffestiniog), gardd Manod, gerddi Yr Orsaf ym Mhenygroes a Gardd Nant, a greuwyd gan aelod o’r Cynulliadau, a hefyd Llys Dafydd a Gardd Ffrancon yn Nyffryn Ogwen.
    • Da iawn i’r 6 aelod Cynulliad a ymunodd â bwrdd Ynni Llŷn, a lwyddodd yn nechrau 2024 i ddenu cyllid gan ARFOR 2 i ddechrau helpu trigolion lleol i wneud eu cartrefi’n fwy ynni-effeithlon trwy’r prosiect Ôl-osod i Bawb. Mae Ynni Llŷn eisoes wedi partneru ar Cartrefi Clyd, Prosiect Sero Net Gwynedd, creuwyd 4 swydd leol dros y flwyddyn.
    • Mae Afallen yn cyd-weithio hefo GwyrddNi ar Fonitro a Gwerthuso – mewn geiriau eraill, i helpu ni fesur faint o effaith da mae GwyrddNi yn ei gael yn ein cymunedau.
    Siôn, Hwylusydd Dyffryn Nantlle, a phlant Ysgol Rhosgadfan yn yr Ardd Wyllt

    Ond nid dyma ddiwedd y stori! Mae’r Cynlluniau Gweithredu yn llawn syniadau gwych sydd angen eich cefnogaeth, ac mae arian had ar gael o hyd i roi hwb i fentrau newydd neu gefnogi rhai sy’n bodoli. P’un a ydych yn llawn syniadau neu’n awyddus i roi help llaw, rydym eisiau clywed ganddoch chi. Cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen fer yma i ddweud wrthym sut yr hoffech chi gymryd rhan.

    Dros y tair blynedd nesaf, ein nod ydi hadu, meithrin a chefnogi ystod eang o brosiectau, gan alluogi ein cymunedau i gymryd perchnogaeth ohonynt yn y tymor hir – gan greu effaith crychdonnol o ysbrydoliaeth a newid positif dros Wynedd a thu hwnt!

    Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni.

    Postiwyd ar

    Helpu cymunedau i arbed arian a lleiau eu hôl troed carbon: diweddariad gan Cyd Ynni

    Mae Cyd Ynni yn gonsortiwm o naw grŵp cymunedol, a ffurfiwyd yn wreiddiol yn 2017 pan wnaethom sicrhau £247,000 gan y Loteri Genedlaethol i gychwyn prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol a sefydlu Clybiau Ynni Lleol, sydd â’r nod o werthu ynni rhatach i bobl leol. Mae Clybiau Ynni Lleol nid yn unig yn hyrwyddo’r defnydd o ffynonellau ynni cynaliadwy ond hefyd yn cryfhau’r economi leol trwy gadw gwariant ynni o fewn y gymuned.

    Mae Cyd Ynni, sef Gruff Wyn a Phil McGrath yn cefnogi grwpiau cymunedol mewn gwahanol drefi, gan gynnwys Caernarfon, Llanberis, Llanaelhaearn, Felinheli, Bethel, Capel Curig, Llithfaen, Y Fron, Llannor, Llanfairfechan a Llanrug. Rydym yn asesu addasrwydd paneli solar a batris ar adeildau cymunedol, yn dadansoddi’r defnydd ynni, yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor, yn cysylltu â chontractwyr, yn adnabod cyllid, ac yn ysgrifennu ceisiadau.

    Ym mis Chwefror 2023, fe wnaethom sicrhau £188,000 ychwanegol chwanegol gan Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i hyrwyddo ein prosiectau ynni adnewyddadwy. Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi cefnogi cymunedau i dynnu £113,000 i lawr.

    Neuadd Talysarn

    Neuaddau Cymunedol

    Erbyn hyn, mae pum neuadd wedi gosod paneli solar gyda’n cefnogaeth ni, gan arbed arian a lleihau eu hôl troed carbon. Fe wnaethom asesu cyflenwad trydan pob adeilad, blwch ffiwsiau, y math o cyflenwad trydan sy’n cyrraedd yr adeilad, a gweithio gyda’r neuaddau i ddadansoddi eu biliau trydan.

    Aethom hefyd i gyfarfodydd pwyllgor, cysylltu â thri chontractwr paneli solar i gael y pris gorau, nodi ffynonellau cyllid, ac ysgrifennu ceisiadau grant. Y grantiau llwyddiannus yw:

    • Neuadd Llanllyfni: £5,418 ar gyfer paneli 4kW
    • Neuadd Carmel: £5,418 ar gyfer paneli 12kW (grant yn cwmpasu 4kW)
    • Canolfan Talysarn: £5,418 ar gyfer paneli 4kW
    • Canolfan Awyr Agored Rhyd Ddu: £9,640.70 ar gyfer paneli 5kW a batri 9.5kWh
    • Neuadd Waunfawr: £7,000 ar gyfer paneli 4.92kW

    Gyda’i gilydd, rydym wedi cefnogi cymunedau i sicrhau £39,000 mewn grantiau ar gyfer neuaddau cymunedol, gyda £10,000 ychwanegol gan yr asiantaeth tai cymdeithasol Adra ar gyfer adroddiadau datgarboneiddio, gan ddod â chyfanswm yr effaith i £49,000. Ein nod yw helpu 8 arall cyn diwedd y prosiect ym mis Ionawr 2025.

    Yn gyfan gwbl, mae’r grwpiau cymunedol rydym yn gweithio gyda nhw wedi ymrwymo cyfanswm o £70,000 (o’u helw) i ariannu mentrau lleol amrywiol eraill. Mae un yn grŵp ynni cymunedol newydd yn Llanfairfechan, sydd wedi derbyn £10,000 i ddechrau; rydym wedi bod yn cefnogi’r grŵp newydd hwn i sefydlu a llunio eu cynlluniau.

    Neuadd Llanllyfni

    Prosiect Ynni Twrog

    Un o’n prosiectau mwyaf uchelgeisiol yw menter solar a batri adeiladu cymunedol Ynni Twrog. Ar hyn o bryd rydym yn gwneud cais am gyllid ar gyfer prosiect £250,000 yng nghymunedau Blaenau Ffestiniog, Penrhyndeudraeth, a Gellilydan, lle rydym yn bwriadu gosod paneli solar a batris ar 13 o adeiladau, rhai gyda phwyntiau gwefru.

    Bydd y prosiect hwn, sydd â chyfanswm o 136kW o gapasiti solar, yn sicrhau ynni cynaliadwy a phrisiau trydan sefydlog i denantiaid, yn bennaf mentrau cymdeithasol, busnesau bach, ac elusennau. Rydym hefyd wedi llywio rheoliadau cynllunio ar gyfer gosod paneli solar ym Mlaenau Ffestiniog, sydd er yn hyn mewn Safle Treftadaeth y Byd.

    Cynlluniau ar gyfer y Dyfodol: Cwmni Gwasanaeth Ynni Cymunedol (CESCo)

    Wrth edrych ymlaen, ein nod yw trawsnewid y 13 adeilad hyn i fod yn rhan o Gwmni Gwasanaeth Ynni Cymunedol (CESCo) ehangach. Mae hyn yn golygu integreiddio prosiect hydro a rhwydwaith gwresogi ardal, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Ynni Lleol a Chyngor Gwynedd. Bydd y CESCo yn gwella diogelwch ynni, yn hyrwyddo’r defnydd o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, ac yn creu seilwaith ynni mwy gwydn. Mae disgwyl iddo hefyd greu o leiaf dwy yrfa leol i reoli’r CESCo.

    Prosiectau Hydro

    Rydym hefyd yn symud ymlaen â phrosiectau hydro gyda £20,000 wedi’i wneud o elw cynlluniau hydro lleol, gan ganolbwyntio ar ddau safle: un ym Mlaenau Ffestiniog (35kW) ac un arall ar afon Cwm Du (100kW) ger Rhyd Ddu. Mae’r cyllid hwn yn ein galluogi i wneud gwaith paratoi, megis adroddiadau archaeolegol ac ecolegol. Rydym yn aros am adborth gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ein ceisiadau hydro.

    Tô Solar Diwydiannol

    Nod ein trafodaethau parhaus ag Adra yw gosod rhwng 250kW a 500kW o baneli solar ar do ei Hwb Datgarboneiddio, Tŷ Gwyrddfai, ym Mhenygroes. Gallai’r prosiect hwn, sy’n cynnwys un o’r toeau diwydiannol mwyaf yng ngogledd Cymru, roi hwb sylweddol i gynhyrchiant ynni adnewyddadwy lleol.

    Mae Cyd Ynni wedi adfywio grŵp ynni cymunedol segur a’r nod yw iddynt ddatblygu’r prosiect solar ar y tô gyda Cyd Ynni yn cefnogi ei ddatblygiad. Pe bai’r prosiect yn llwyddo i sicrhau’r 500kW llawn, byddai hyn yn rhoi pŵer i tua 100 o gartrefi. Mae rheoliadau’n golygu na allem bweru cartrefi’n uniongyrchol, ond byddai’r elw o werthu’r trydan, naill ai yn ôl i’r grid neu i fusnesau sy’n agos at y paneli solar, yn cael ei ail-fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol ac amgylcheddol.

    Prosiectau’r Dyfodol

    Wrth symud ymlaen, mae Cyd Ynni yn bwriadu adeiladu canopïau solar maes parcio a gweithio gyda’r Awdurdod Lleol. Ein nod yw nodi meysydd parcio potensial. Bydd hyn yn arwain at ddatblygu grwpiau ynni cymunedol newydd yn yr ardaloedd hynny, gyda Cyd Ynni yn eu helpu i ddatblygu.

    Mae cyfle cyffrous wedi codi gyda Capel lleol sydd yn ail-datblygu’r safle fel adeilad i’w ddefnyddio gan y gymuned a sydd gyda tô sylweddol – rydym yn gobeithio cael sgyrsiau pellach yn mis Medi ar gyfer cychwyn ynni cymunedol yng Nghaernarfon. 

    Eisiau trafod? Cysylltwch hefo phil@deg.cymru

    Postiwyd ar

    Cyd Ynni: cydweithio ar draws naw cymuned yng Ngwynedd

    Cyd Ynni: cydweithio ar draws naw cymuned yng Ngwynedd

    Yn wreiddiol roedd prosiect Cyd Ynni, a sefydlwyd nôl yn nechrau 2016, yn brosiect cydweithredol oedd yn cysylltu pum grŵp ynni cymunedol; Ynni Ogwen, Ynni Anafon Energy, Ynni Padarn Peris, Egni Mynydd a Ymlaen Moelyci. Pum menter lwyddiannus ym mhentrefi ôl-ddiwydiannol gogledd Gwynedd.

    Cyffrous iawn felly yw cyhoeddi ein bod yn gobeithio ehangu o bump i naw menter dros y misoedd nesaf!

    Erbyn hyn mae’r partneriaid gwreddiol yn brofiadol iawn o ran gweithredu prosiectau sy’n cael eu harwain gan bobl ac sy’n eiddo i’r gymuned, gan adeiladu ar gryfderau lleol a gwerthoedd i wella ein heconomïau lleol a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae pob prosiect yn cael eu harwain gan y gymuned, maent wedi eu hangori yn eu cymunedau gydag unigolion o’r cymunedau wrth y llyw. Fel mesur o’u llwyddiant, mae tri o’r partneriaid wedi cyfrannu bron i £214,000 mewn budd cymunedol i ardaloedd Abergwyngregyn, Bethesda a Llanberis hyd yma, gyda £172,200 yn ychwanegol yn cael ei dalu i cyfranddalwyr cymunedol. Ynni lleol er budd pobl lleol.

    Mae’r cymunedau sy’n cydweithio ar y prosiect hwn yn rhannu cefndiroedd tebyg. Maent i gyd yn gymunedau iaith gyntaf Gymraeg, sy’n cynnal eu busnesau a’u bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roeddent i gyd yn ganolog i’r chwyldro diwydiannol, gan eu bod yn ganolfannau i ddiwydiant y chwareli llechi ac felly wrth gwrs wedi eu heffeithio gan Streic Fawr Chwarel y Penrhyn. Maent bellach yn wynebu cyfuniad o broblemau cyfoes sy’n gysylltiedig â dad-ddiwydiannu ac effeithiau diffyg perchnogaeth neu reolaeth dros ddefnydd adnoddau naturiol lleol. Mae’r rhain yn cynnwys diboblogi (colli pobl ifanc yn arbennig), incwm isel, prinder cyfleoedd gwaith, lefelau tlodi tanwydd uchel, a hen stoc tai ynghyd â’r effeithiau sy’n gysylltiedig â gostyngiadau mewn gwasanaethau a chymorth yn y sector cyhoeddus. Mae’r argyfwng ynni yn gwaethygu’r sefyllfa gan beri i bobl deimlo’n ddiymadferth, a hynny heb gefnogaeth i adfer y sefyllfa.

    Mae Cyd Ynni o’r farn nad oes angen i’r heriau hyn fod yn anochel. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd gwaith gwyrdd i bobl ifanc, uwchsgilio a chael profiad gwerthfawr mewn swyddi’r dyfodol/prosiectau adnewyddadwy a mynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni ein hen stoc dai gyda chydymdeimlad. Un o egwyddorion Cyd Ynni yw perchnogaeth gymunedol – mynd i’r afael â’r materion hyn i greu cymunedau mwy hyderus ac abl, sy’n fodlon ymgymryd â mwy o brosiectau eu hunain.

    Un o’r argymhellion gan yr aelodau o brosiect gwreiddiol Cyd Ynni, a ddaeth wrth werthuso chwe mlynedd o gydweithio, oedd ehangu’r grwp i gynnwys grwpiau tebyg yng ngogledd Gwynedd. Erbyn hyn, mae Cyd Ynni wedi gwahodd Antur Llanaelhaearn, Antur Nantlle, Siop Griffith / Yr Orsaf ac Ynni Llŷn i ymuno.

    Mae Rheolwr Datblygu Cyd Ynni, Phil McGrath, wedi bod yn datblygu ceisiadau ariannu dros y misoedd diwethaf a’r gobaith ydy bydd y cydweithredu rhwng y naw cymuned yn parhau am o leiaf y dair mlynedd nesaf.

    Darllenwch ein blog nesaf i ddarganfod mwy am fanylion prosiect Cyd Ynni 2.0.

    Postiwyd ar

    Car-n-arfon: Car trydan cymunedol ar gael i’w logi

    Electric car charging point symbol painted on the ground

    Car-n-arfon: Car trydan cymunedol ar gael i’w logi

    Ydych chi’n byw yng nghyffiniau Caernarfon? Os felly, tybed ydych chi’n ymwybodol bod car trydan cymunedol yma, ar gael i chi ei logi? 

    Mae’r car gwyn yn cael ei barcio yn barhaol ym maes parcio aml lawr y cyngor dros ffordd i neuadd Bingo’r dref, ac yno mae gorsaf arbennig i werfu’r car, er mwyn sicrhau fod y tanc trydan bob amser yn llawn ar gyfer y gyrrwr nesaf.

    Mae’r car cymunedol yn rhan o gynllun Co Wheels, clwb llogi ceir cymunedol mwyaf y D.U. Ar ôl talu £25 o dâl aelodaeth (taliad unwaith – does dim ffi aelodaeth misol), bydd cerdyn aelodaeth yn cael ei bostio atoch, a hwn wedyn sydd yn agor y car – does dim angen goriad!

    Unwaith eich bod wedi ymaelodi gallwch archebu’r car dros y ffôn, ar wefan co-wheels neu drwy’r app. Mae’n ddigon syml, ond os nad ydych yn rhy siŵr sut i fynd ati i wneud hyn fe fyddwn ni yn barod i helpu unrhyw dro yma yn swyddfa DEG yng nghanol y dref (llawr cyntaf, 2 Stryd Bangor, Caernarfon – uwchben siop Wil Bwtsiar).

    Mae yswyriant yn cael ei gynnwys, a gallwch archebu’r car am gyn lleied ac awr neu am ddyddiau ar y tro, ac wrth ddefnyddio’r côd hyrwyddo CAERNARFON11 wrth ymaelodi fe gewch werth £11 o gredyd gyrru (gwerth dwy awr o logi’r car).

    Am ragor o fanylion ac i gofrestru er mwyn llogi’r car ewch i www.co-wheels.org.uk neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach gallwch gysylltu gyda Phil McGrath yn DEG fydd yn barod i helpu: phil@deg.cymru / 07399 174 212.

    Os ydach chi’n chwilfrydig am geir trydan dyma’r cyfle perffaith i roi cynnig ar yrru un, a cofiwch son wrth eich teulu a’ch ffrindiau!

    Postiwyd ar

    Prosiect Sero Net Gwynedd

    Prosiect Sero Net Gwynedd: creu swyddi a helpu teuluoedd Gwynedd i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon

    Mae cyfnod cyffrous ar droed i DEG. Mewn partneriaeth â mudiadau lleol eraill, rydym wedi lansio prosiect pwysig i helpu teuluoedd yng Ngwynedd i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Ar yr un pryd bydd y prosiect hwn yn creu swyddi yn ogystal â chyfleoedd i bobl leol dderbyn hyfforddiant.

    Mae’r fenter, sef Prosiect Sero Net Gwynedd, wedi derbyn dros £500,000 o nawdd gan y Llywodraeth ynghyd â £195,000 o arian cyfatebol gan bartneriaid. Daw’r prif grant o Gronfa Adfywio Cymunedol a Chronfa Codi’r Gwastad San Steffan.

    Y partneriaid sy’n cydweithio ar Brosiect Sero Net Gwynedd yw DEG, Cyd Ynni, Partneriaeth Ogwen, Yr Orsaf, Cwmni Bro Ffestiniog, YnNi Llŷn, Cymdeithas Tai Adra, Grŵp Cynefin, Grŵp Llandrillo Menai a Travis Perkins.

    Bydd y Prosiect yn cyflogi 26 o bobl leol am chwe mis gan eu hyfforddi’n drylwyr, sydd yn golygu y bydd ganddynt sgiliau y bydd modd iddynt eu trosglwyddo i swyddi eraill yn y dyfodol o fewn sector twf yr economi gwyrdd.

    Bydd pedwar ar hugain o’r rhai a gyflogir yn gweithio fel “wardeiniaid ynni” gan ymweld â chartrefi mewn chwe rhan o Wynedd (Caernarfon, Pen Llŷn, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris, Dyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog) a chynnig cyngor ar ynni, gan sicrhau bod trigolion ar y tariff ynni cywir – rhywbeth a ddaw’n gynyddol bwysig wrth i gostau byw a’r argyfwng ynni fynd yn fwy dyrys yn y misoedd nesaf.

    Bydd y wardeiniaid ynni yn cael eu hyfforddi i gynnig cyngor am ynysu, atal drafftiau a sut i ddefnyddio ynni’n gost-effeithiol, fel y bydd trigolion yn gwario llai ar ynni. Gobeithio y bydd y prosiect yn helpu mwy a mwy o bobl i ddod yn rhan o’r ‘economi gwyrdd’, ac y bydd ein wardeiniaid ynni yn ymgymhwyso fel y gallant gymryd rhan mewn prosiectau eraill a fydd gennym yn y dyfodol.

    Bydd yr hyfforddiant, a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai, yn ymdrin â materion fel tlodi tanwydd, ymwybyddiaeth ynni a sicrhau bod pobl yn derbyn y budd-daliadau cywir lle bo hynny’n berthnasol. Rhai o’r gyrfaoedd y gallai’r wardeiniaid ynni eu dilyn yn y dyfodol yw gweithio fel aseswyr ynni cartref, sy’n cael rhoi tystysgrifau perfformiad ynni, neu waith mwy ymarferol fel ffitio a gosod offer, atal drafftiau, a hyrwyddo defnydd o baneli solar, pympiau gwres a phwyntiau gwefru ceir trydan ymhlith trigolion Gwynedd.  

    Ein nod yn y Prosiect Sero Net yw helpu Gwynedd i ymgyrraedd at fod yn sero net, gan helpu trigolion waeth pa fath o dai sydd ganddynt, boed yn dai ar rent gan landlord preifat, tai cymdeithasol neu berchen-feddianwyr. Byddwn yn helpu pawb y cawn gyfle i siarad ag ef i leihau eich allyriadau carbon wrth inni symud ymlaen at 2030 – ond yn bwysicach fyth, byddwn yn helpu pobl gyda chostau dod yn garbon niwtral.