Prosiect Sero Net Gwynedd: creu swyddi a helpu teuluoedd Gwynedd i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon
Mae cyfnod cyffrous ar droed i DEG. Mewn partneriaeth â mudiadau lleol eraill, rydym wedi lansio prosiect pwysig i helpu teuluoedd yng Ngwynedd i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Ar yr un pryd bydd y prosiect hwn yn creu swyddi yn ogystal â chyfleoedd i bobl leol dderbyn hyfforddiant.
Mae’r fenter, sef Prosiect Sero Net Gwynedd, wedi derbyn dros £500,000 o nawdd gan y Llywodraeth ynghyd â £195,000 o arian cyfatebol gan bartneriaid. Daw’r prif grant o Gronfa Adfywio Cymunedol a Chronfa Codi’r Gwastad San Steffan.
Y partneriaid sy’n cydweithio ar Brosiect Sero Net Gwynedd yw DEG, Cyd Ynni, Partneriaeth Ogwen, Yr Orsaf, Cwmni Bro Ffestiniog, YnNi Llŷn, Cymdeithas Tai Adra, Grŵp Cynefin, Grŵp Llandrillo Menai a Travis Perkins.
Bydd y Prosiect yn cyflogi 26 o bobl leol am chwe mis gan eu hyfforddi’n drylwyr, sydd yn golygu y bydd ganddynt sgiliau y bydd modd iddynt eu trosglwyddo i swyddi eraill yn y dyfodol o fewn sector twf yr economi gwyrdd.
Bydd pedwar ar hugain o’r rhai a gyflogir yn gweithio fel “wardeiniaid ynni” gan ymweld â chartrefi mewn chwe rhan o Wynedd (Caernarfon, Pen Llŷn, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris, Dyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog) a chynnig cyngor ar ynni, gan sicrhau bod trigolion ar y tariff ynni cywir – rhywbeth a ddaw’n gynyddol bwysig wrth i gostau byw a’r argyfwng ynni fynd yn fwy dyrys yn y misoedd nesaf.
Bydd y wardeiniaid ynni yn cael eu hyfforddi i gynnig cyngor am ynysu, atal drafftiau a sut i ddefnyddio ynni’n gost-effeithiol, fel y bydd trigolion yn gwario llai ar ynni. Gobeithio y bydd y prosiect yn helpu mwy a mwy o bobl i ddod yn rhan o’r ‘economi gwyrdd’, ac y bydd ein wardeiniaid ynni yn ymgymhwyso fel y gallant gymryd rhan mewn prosiectau eraill a fydd gennym yn y dyfodol.
Bydd yr hyfforddiant, a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai, yn ymdrin â materion fel tlodi tanwydd, ymwybyddiaeth ynni a sicrhau bod pobl yn derbyn y budd-daliadau cywir lle bo hynny’n berthnasol. Rhai o’r gyrfaoedd y gallai’r wardeiniaid ynni eu dilyn yn y dyfodol yw gweithio fel aseswyr ynni cartref, sy’n cael rhoi tystysgrifau perfformiad ynni, neu waith mwy ymarferol fel ffitio a gosod offer, atal drafftiau, a hyrwyddo defnydd o baneli solar, pympiau gwres a phwyntiau gwefru ceir trydan ymhlith trigolion Gwynedd.
Ein nod yn y Prosiect Sero Net yw helpu Gwynedd i ymgyrraedd at fod yn sero net, gan helpu trigolion waeth pa fath o dai sydd ganddynt, boed yn dai ar rent gan landlord preifat, tai cymdeithasol neu berchen-feddianwyr. Byddwn yn helpu pawb y cawn gyfle i siarad ag ef i leihau eich allyriadau carbon wrth inni symud ymlaen at 2030 – ond yn bwysicach fyth, byddwn yn helpu pobl gyda chostau dod yn garbon niwtral.
