Postiwyd ar

Canlyniadau Ein Hadroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad

Canlyniadau Ein Hadroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad

Yma yn DEG, rydym yn angerddol am greu gwerth parhaol i’n cymunedau yng ngogledd-orllewin Cymru. Y llynedd, pan gawsom ein pen-blwydd yn 10 oed, roeddem eisiau gwybod faint o werth yr oeddem wedi’i greu. Faint o wahaniaeth yr oeddem yn ei wneud go iawn?

Dyna pam y gwnaethom gomisiynu adroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) trwy Werth Cymdeithasol Cymru. Mae’r adroddiad yn rhoi darlun clir i ni o’r enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad o’r hyn y mae tîm DEG yn ei wneud; hynny yw, effeithiau ariannol, emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol gwirioneddol ein gwaith.

Canlyniadau Allweddol o’r Adroddiad

Darganfyddodd yr adroddiad:

1. Enillion ar Fuddsoddiad: Am bob £1 a fuddsoddwyd ym mhrosiectau DEG (o gyllid grant neu ffynonellau eraill), cynhyrchwyd £3.58 o werth cymdeithasol.

Mae gwerth cymdeithasol yn cynnwys arbedion arian go iawn i gymunedau; ond hefyd gwelliannau mewn lles, mwy o wybodaeth, mynediad at wasanaethau, a photensial ar gyfer cynhyrchu incwm yn y dyfodol.

2. Drwy Brosiect Sero Net Gwynedd y llynedd, cefnogodd Gwasanaeth Ynni DEG 659 o unigolion, llawer ohonynt yn wynebu tlodi tanwydd. Arweiniodd cyngor a chefnogaeth ein Swyddogion Ynni at:

  • Dros £35,000 wedi ei arbed yn uniongyrchol
  • 100% o’r unigolion a holwyd yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy gwybodus am effeithlonrwydd ynni
  • 100% yn nodi llai o straen ynghylch biliau ynni

3. Adroddodd aelodau’r gymuned yn ein cymunedau GwyrddNi eu bod yn teimlo’n fwy cysylltiedig â’u cymdogion, gyda 76% yn nodi ymdeimlad cryfach o gymuned a 66% yn mynegi mwy o obaith am y dyfodol.

4. Drwy Cyd Ynni, gweithiodd DEG yn agos gyda grwpiau cymunedol i wella cynaliadwyedd ariannol a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy. Helpodd hyn i gynhyrchu £518,000 mewn grantiau i adeiladu prosiectau ynni adnewyddadwy.

    5. Cynaliadwyedd a Manteision Hirdymor. Rhagwelir y bydd y prosiectau ynni adnewyddadwy yr ydym wedi’u cefnogi yn:

    • Cynhyrchu dros £4.7 miliwn ar gyfer cymunedau lleol dros y 25 mlynedd nesaf.
    • Yn arwain at arbedion carbon o 7,632.5 tunnell dros 25 mlynedd (yn gyfateb i dynnu tua 200 o geir oddi ar y ffyrdd neu blannu 30,000 o goed).
    • Cynhyrchu 1,582,000 kWh o drydan adnewyddadwy yn flynyddol, neu ddigon i bweru 585 o gartrefi cyffredin.

    Beth mae hyn yn ei olygu

    Mae’r canfyddiadau gan yr adroddiad yn cadarnhau bod ein gwaith yn darparu gwerth gwirioneddol am yr arian sydd wedi ei fuddsoddi. Mae ganddo effaith sy’n ymestyn yn bell: o helpu cymunedau i deimlo’n rymus, i leihau straen pobl ynghylch biliau ynni.

    “Mae DEG wedi ceisio creu mwy na gwerth economaidd yn unig drwy ein gwaith erioed — mae effaith gymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr un mor bwysig i ni. Gyda chymorth Gwerth Cymdeithasol Cymru, gallwn nawr ddweud yn hyderus bod yr hyn a wnawn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i unigolion a chymunedau ledled gogledd-orllewin Cymru,” meddai Grant Peisley, cyfarwyddwr DEG.

    “Mae gweld effaith pendant ein gwaith yn yr adroddiad hwn yn werthfawr iawn. Mae’n rhoi tystiolaeth y tu ôl i’r hyn yr ydym wedi’i gredu erioed – pan fyddwn yn buddsoddi mewn pobl a chymunedau, mae’r enillion yn mynd ymhell y tu hwnt i bunnoedd a cheiniogau. Maent yn dod yn ôl fel lleoedd cryfach, mwy hyderus, a mwy cysylltiedig i fyw. Nid yn y rhifau yn unig y mae gwir werth beth rydym yn ei wneud – mae o mewn helpu pobl i deimlo’n gynhesach, yn fwy gobeithiol, ac yn fwy grymus i lunio eu dyfodol eu hunain.

    Mae canfyddiadau ein hadroddiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad hefyd yn rhoi hyder i’n harianwyr – gan ddangos bod pob punt a fuddsoddir yn DEG yn cynhyrchu mwy na thair gwaith ei werth trwy’r gwaith y mae ein tîm yn ei gyflawni. Mae’n dyst i ymroddiad, penderfyniad a sgiliau pawb yn DEG ein bod yn parhau i gyflawni canlyniadau mor drawiadol a chyflwyno newid ystyrlon i’r bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.”

    Os ydych chi’n grŵp cymunedol sy’n edrych i leihau eich biliau ynni, lleihau eich ôl troed carbon neu gynhyrchu eich pŵer eich hun, neu os ydych chi’n chwilio am gyngor i lywio byd cymhleth ynni ac ynni adnewyddadwy – cysylltwch â ni!