Postiwyd ar

Edrych tuag at y dyfodol: Gweithio gyda Llywodraeth Cymru newydd

Ar ôl cyfnod hir o ddadleuon, cyfarfodydd etholiadol, trafodaethau teledu a sgyrsiau cymunedol, mae gan Gymru Lywodraeth newydd bellach. Fel mudiad dan arweiniad y gymuned a menter gymdeithasol sy’n gweithio yng nghanol cymunedau ledled gogledd-orllewin Cymru, rydym hoffi cymryd y cyfle hwn i longyfarch Plaid Cymru ar eu llwyddiant.

Ond fel mae pobl ledled y wlad yn cydnabod, mae’r gwaith go iawn yn dechrau rŵan. I DEG a GwyrddNi, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth newydd nid yn unig yn sefyll wrth ei hymrwymiadau maniffesto, ond yn mynd ymhellach, gan sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn cael eu cefnogi’n briodol i arwain y newid i ddyfodol tecach, mwy gwyrdd a mwy gwydn.

Yn DEG, rydym yn adnabyddus am ein cysylltiadau dwfn â chymunedau ledled gogledd-orllewin Cymru, yn cefnogi pobl i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, defnyddio ynni’n fwy effeithlon, a sicrhau bod manteision y gwaith hwnnw’n aros yn lleol. Fel y sefydliad sy’n cynnal mudiad GwyrddNi, rydym yn gweld bob dydd pa mor bwerus y gall gweithredu hinsawdd dan arweiniad y gymuned fod pan gaiff ei gefnogi’n briodol.

Felly, rydym yn cael ein calonogi i weld elfennau o’r gwaith hanfodol hwn yn cael eu hadlewyrchu yn yr ymrwymiadau maniffesto a nodwyd gan Blaid Cymru fel y Llywodraeth newydd, gan gynnwys:

  • Cefnogaeth i ynni cymunedol a pherchnogaeth leol: cydnabod y rôl y gall cymunedau chwarae wrth lunio system ynni tecach.
  • Targed Sero Net mwy uchelgeisiol ar gyfer 2040: arwydd o fwriad i gyflymu trawsnewidiad Cymru.
  • Cronfa Cyfoeth Cymru arfaethedig: gyda’r potensial i ail-fuddsoddi elw ynni adnewyddadwy yn ôl mewn cymunedau.
  • Cefnogaeth i hawl cymunedol i brynu: cryfhau rheolaeth leol dros dir ac asedau.
  • Pwyslais ar gaffael lleol a busnesau sy’n eiddo i Gymru: cadw gwerth yn cylchredeg o fewn ein cymunedau.
  • Cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd yn cefnogi lles cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd hirdymor.

Mae’r rhain yn gamau ystyrlon i’r cyfeiriad cywir ar gyfer y math o waith a welwn bob dydd ar draws cefn gwlad ogledd-orllewin Cymru. Gwaith sy’n dangos sut y gall gweithredu ar yr hinsawdd gryfhau cymunedau, lleihau bregusrwydd a meithrin gwydnwch lleol.

Er bod yr ymrwymiadau hyn yn nodi symudiad croesawgar i’r cyfeiriad cywir, mae ein profiad ein hunain a’r galwadau clir o bob rhan o’r sector ynni cymunedol a hinsawdd yng Nghymru yn dangos bod angen mesurau pellach o hyd er mwyn i weithredu ar yr hinsawdd dan arweiniad y gymuned ffynnu’n wirioneddol:

  • Deddf Ynni Cymunedol: i ymgorffori perchnogaeth leol yn y gyfraith a rhoi’r sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar gymunedau i fuddsoddi ac arwain.
  • Eglurdeb ar fecanweithiau fel yr Ardoll Adnoddau Naturiol: gan sicrhau bod offer codi refeniw o fudd gwirioneddol i’r cymunedau sy’n cynnal cynhyrchu adnewyddadwy.

Nodwn fod y weinyddiaeth newydd wedi dewis peidio â phenodi gweinidogion pwrpasol ar gyfer yr hinsawdd, yr amgylchedd a bywyd gwyllt, gan ymgorffori’r meysydd hyn mewn briff gwledig sydd eisoes yn sylweddol. Ynghyd â’n partneriaid ledled Cymru, byddwn yn parhau i hyrwyddo cyflawni addewidion y maniffesto ac yn pwysleisio sut y byddai gweinidog pwrpasol dros yr amgylchedd yn cryfhau gallu’r Llywodraeth i wireddu ei hymrwymiadau.

Fel eiriolwyr hirdymor dros gymunedau ledled gogledd-orllewin Cymru, rydym yn croesawu’r cyfle i weithio gyda’r Llywodraeth newydd i gefnogi cyflawni’r ymrwymiadau hyn. Mae gwaith DEG, a mudiad ehangach GwyrddNi, bob amser wedi canolbwyntio ar aml-ddatrys: sicrhau bod gwydnwch economaidd, lles cymunedol, stiwardiaeth amgylcheddol a bywiogrwydd diwylliannol yn atgyfnerthu ei gilydd. Byddwn yn parhau i bwyso am bolisïau sy’n gwneud y dull integredig hwn yn haws, yn gliriach ac yn fwy cyraeddadwy i gymunedau gwledig, ac rydym yn barod i weithio gyda Gweinidogion, swyddogion a phartneriaid i droi’r uchelgeisiau hyn yn fuddion pendant i bobl ogledd-orllewin Cymru.