Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi ei leoli yn y gymuned ac yn cael ei arwain gan y gymuned sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd. Mae’n cael ei ddarparu gan DEG, Partneriaeth Ogwen, Cyd Ynni, Yr Orsaf, Cwmni Bro ac Ynni Llŷn a’r ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dyma ddiweddariad gan y tîm:
Wel, am flwyddyn – o fapio mwsog i gaffis trwsio, ac o blannu llysiau i wneud cartrefi’n fwy cynnes… a dim ond y dechrau ydi hynny!
Fel y gwyddoch mae’n siŵr, cychwynnodd ein taith gyda’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn 2022-2023, lle daeth trigolion ar draws ein pum ardal yng Ngwynedd ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol mwy gwyrdd. Yn dilyn hyn, roedd GwyrddNi yn falch iawn o dderbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ein galluogi i ddechrau dod â syniadau ysbrydoledig ein cymuneddau – sydd wedi eu dal yn ein Cynlluniau Gweithredu – yn fyw.
Nododd hyn ddechrau’r “Cyfnod Gweithredu Cymunedol” – amser ar gyfer rhoi cynlluniau ar waith.
Ers hynny, mae egni ac angerdd ein cymunedau wedi bod yn ysbrydoledig. Mae rhai grwpiau wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers y Cynulliadau, gan gymryd yr awenau i sicrhau eu cyllid eu hunain. Mae eraill wedi gweithio gyda Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi, gan dderbyn cefnogaeth a chyllid sbarduno i roi cychwyn ar eu prosiectau.
Rydym wedi creu’r adroddiad hwn i rannu blas o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd, sut mae ein cymunedau’n teimlo am gefnogaeth GwyrddNi hyd yn hyn, ac i rannu rhai o’r gwersi rydym wedi’u dysgu gyda’n gilydd:

GwyrddNi: Adlewyrchu ar 2024: Darllenwch yr adroddiad fel llyfr “fflipio” neu fel PDF statig.
Dyma rai uchafbwyntiau o’r flwyddyn:
- Yn Nyffryn Nantlle, mae’r Cwt Piclo yn cael ei hadeiladu ac mae sawl cyfarfod a gweithdy eisoes wedi’u cynnal ar sut i gadw a phiclo bwyd.
- Yn Nyffryn Ogwen, mae tîm Mapio Mwsog wedi cynnal sawl taith gerdded mwsogl ac yn y broses o greu eu map mwsog.
- Hyd yn hyn eleni rydym wedi gweithio gyda 17 o ysgolion, gyda chyfanswm o 957 o ymgyllystiadau. Rydym yn dal i weithio hefo sawl ysgol ar ddod a syniadau’r plant yn fyw, hefo sawl artist lleol yn ymuno hefo ni’n fuan ar brosiect Ysgolion Creadigol.
- Neidiodd nifer y plant a ddywedodd y byddent yn hyderus iawn yn esbonio i rywun arall beth oedd newid hinsawdd o 17% cyn ein sesiynau i 84% ar ôl ein sesiynau. Fe wnaethom hefyd helpu un ysgol i ennill Gwobr Aur Ysgolion Eco!
- Mae ein hwylusydd yn Nyffryn Peris wedi helpu i drefnu pobl a chyllid i sefydlu Partneriaeth Dyffryn Peris newydd, gan gynnwys rhentu gofod swyddfa a rhedeg prosiect i edrych ar anghenion tai lleol.
- Gwelodd cyfnewidfa gwisg ysgol Bro Ffestiniog i fyny at 300kg o wisgoedd ysgol yn cael eu rhoddi a’u hailgartrefu, gyda phrosiectau tebyg yn digwydd ar draws yr ardaloedd eraill.
- Sefydlwyd Hwb Beics ym Mhen Llŷn, hefo dros 40 o bobl hyd yn hyn wedi cael profiad positif iawn o fenthyg beic trydan a’i ddefnyddio i fynd i’r gwaith.




- Ym mis Mai, mynychodd o leiaf 60 o bobl yr Ŵyl Hinsawdd yn Nyffryn Ogwen – roedd teithiau natur, gweithdai, darlithoedd a llawer mwy.
- Ffurfiwyd Rhwydwaith Datgarboneiddio, gan ddod ag aelodau o bob un o’r 5 cymuned ynghyd. Mae’r grŵp wedi ymweld ag ychydig o adeiladau sydd wedi cael eu hôl-osod, ac mae mwy ar y gweill yn fuan.
- Mae Ynni Lleu newydd gael ei ailsefydlu fel cwmni budd cymunedol gydag aelodau’r gymuned wrth y llyw. Mae’n bosibl y bydd astudiaeth fapio ar y potensial ar gyfer cynhyrchu ynni glân yn Nyffryn Nantlle ar y gweill yn fuan.
- Rydym wedi bod yn cefnogi gerddi megis Maes-y-Plas (Blaenau Ffestiniog), gardd Manod, gerddi Yr Orsaf ym Mhenygroes a Gardd Nant, a greuwyd gan aelod o’r Cynulliadau, a hefyd Llys Dafydd a Gardd Ffrancon yn Nyffryn Ogwen.
- Da iawn i’r 6 aelod Cynulliad a ymunodd â bwrdd Ynni Llŷn, a lwyddodd yn nechrau 2024 i ddenu cyllid gan ARFOR 2 i ddechrau helpu trigolion lleol i wneud eu cartrefi’n fwy ynni-effeithlon trwy’r prosiect Ôl-osod i Bawb. Mae Ynni Llŷn eisoes wedi partneru ar Cartrefi Clyd, Prosiect Sero Net Gwynedd, creuwyd 4 swydd leol dros y flwyddyn.
- Mae Afallen yn cyd-weithio hefo GwyrddNi ar Fonitro a Gwerthuso – mewn geiriau eraill, i helpu ni fesur faint o effaith da mae GwyrddNi yn ei gael yn ein cymunedau.
Ond nid dyma ddiwedd y stori! Mae’r Cynlluniau Gweithredu yn llawn syniadau gwych sydd angen eich cefnogaeth, ac mae arian had ar gael o hyd i roi hwb i fentrau newydd neu gefnogi rhai sy’n bodoli. P’un a ydych yn llawn syniadau neu’n awyddus i roi help llaw, rydym eisiau clywed ganddoch chi. Cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen fer yma i ddweud wrthym sut yr hoffech chi gymryd rhan.
Dros y tair blynedd nesaf, ein nod ydi hadu, meithrin a chefnogi ystod eang o brosiectau, gan alluogi ein cymunedau i gymryd perchnogaeth ohonynt yn y tymor hir – gan greu effaith crychdonnol o ysbrydoliaeth a newid positif dros Wynedd a thu hwnt!
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni.





