Postiwyd ar

Be ydi Cynulliad Cymunedol?

Black and white photo of a man holding his hand up in a presentation

Be ydi Cynulliad Cymunedol?

Cynulliad. Dyna i chi air rydan ni’n ei glywed yn aml y dyddiau hyn, a gair sy’n gwneud i’r mwyafrif ohonom feddwl am y Senedd ym Mae Caerdydd dwi’n siŵr. Ond beth yn union mae’r gair cynulliad yn ei olygu? 

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn esbonio mai syml iawn yw cynulliad yn ei hanfod – y weithred o ddod ynghyd. Criw o bobl yn dod at ei gilydd, efo rheswm penodol dros wneud hynny. A dyna’r union rydan ni yn ei drefnu ar hyn o bryd; Cynulliad Cymunedol. Mae enwau eraill yn cael eu rhoi ar wahanol grwpiau sy’n cydweithio yn ddemocrataidd fel hyn; rheithgor, panel, neu fforwm, ond i ni y gymuned sydd wrth galon popeth, felly Cynulliad Cymunedol aeth a hi.

Rydan ni’n bwriadu cynnal pedwar Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd mewn pum ardal yng Ngwynedd yn ystod 2022-2023, a’r ardaloedd hynny yw Pen Llŷn, Bro Stiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris. Bydd y Cynulliadau hyn yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd, er mwyn rhannu, dysgu, gwrando, trafod a chynllunio, cyn gweithredu, a’r argyfwng hinsawdd fydd y pwnc dan sylw. 

Mae’n bwysig esbonio hefyd ein bod ni, GwyrddNi, yn fudiad sy’n dod o dan faner menter gymdeithasol DEG (Datblygiadau Egni Gwledig), a bod GwyrddNi yn cael ei ariannu gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol. Felly nid yw’r Cynulliadau yn wleidyddol eu natur – y nod yw creu set clir o argymhellion positif ar gyfer y gymuned, i’w gweithredu gan y gymuned, er lles a budd y gymuned, pob un ohonom ni sy’n byw yno. 

Mae’r ffordd yma o ddod â phobl ynghŷd i gyd-weithio yn rhywbeth sydd eisoes yn, ac wedi digwydd yn llwyddiannus ledled y byd. Glywsoch chi son am y Climate Assembly UK? Eu nod nhw oedd creu set o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Prydain ar sut i gyrraedd Net Sero erbyn 2050, ac sydd bellach wedi ei wneud yn raglen deledu ar y BBC o’r enw ‘The People V Climate Change’. Neu beth am Climate Jury yn Kendal a gynhaliwyd yn gyfangwbl ar Zoom, neu’r Decitizenship ym Mrasil oedd yn trafod mynediad at ddiwylliant. Cafodd y Cynulliad cyntaf o’r fath yng Nghymru ei gynnal ym Mlaenau Gwent y llynedd. Os oes ganddoch chi ddiddordeb mae llawer mwy o enghreifftiau o Gynulliadau ym Mhrydain i’w gweld fan hyn, a rhai ledled y byd yn fan hyn

Yn amlwg does dim modd cael holl drigolion ardal fel Pen Llŷn i mewn i un stafell, felly os oes 500 o bobl wedi dangos diddordeb mewn ardal, pwy fydd yn mynychu? Wel, mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn cael eu dewis er mwyn sicrhau bod y Cynulliad yn adlewyrchu’r gymuned ehangach, o ran nodweddion demograffig fel oedran, rhywedd, ethnigrwydd ac ati, a weithiau o ran eu barn ar fater hefyd, er enghraifft eu hagwedd tuag at newid hinsawdd. Ond os na chewch eich dethol peidiwch â digaloni, bydd sawl cyfle i bawb o’r gymuned gymryd rhan cyn, yn ystod ac ar ôl y cynulliadau.

Heb os felly mae hwn yn gyfle cyffrous a diddorol i ni yma yng Ngwynedd! Rydan ni wrthi’n trefnu ar hyn o bryd a byddwn yn rhannu rhagor o fanylion yn fuan iawn! Ond yn y cyfamser os ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd ac â diddordeb mynychu Cynulliad Cymunedol cysylltwch gyda’ch Hwylusydd Lleol  ar ebost neu ar y ffôn – mi fyddan nhw wrth eu bodd yn clywed ganddoch chi.