Postiwyd ar

Cyd Ynni: cydweithio ar draws naw cymuned yng Ngwynedd

Cyd Ynni: cydweithio ar draws naw cymuned yng Ngwynedd

Yn wreiddiol roedd prosiect Cyd Ynni, a sefydlwyd nôl yn nechrau 2016, yn brosiect cydweithredol oedd yn cysylltu pum grŵp ynni cymunedol; Ynni Ogwen, Ynni Anafon Energy, Ynni Padarn Peris, Egni Mynydd a Ymlaen Moelyci. Pum menter lwyddiannus ym mhentrefi ôl-ddiwydiannol gogledd Gwynedd.

Cyffrous iawn felly yw cyhoeddi ein bod yn gobeithio ehangu o bump i naw menter dros y misoedd nesaf!

Erbyn hyn mae’r partneriaid gwreddiol yn brofiadol iawn o ran gweithredu prosiectau sy’n cael eu harwain gan bobl ac sy’n eiddo i’r gymuned, gan adeiladu ar gryfderau lleol a gwerthoedd i wella ein heconomïau lleol a mynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae pob prosiect yn cael eu harwain gan y gymuned, maent wedi eu hangori yn eu cymunedau gydag unigolion o’r cymunedau wrth y llyw. Fel mesur o’u llwyddiant, mae tri o’r partneriaid wedi cyfrannu bron i £214,000 mewn budd cymunedol i ardaloedd Abergwyngregyn, Bethesda a Llanberis hyd yma, gyda £172,200 yn ychwanegol yn cael ei dalu i cyfranddalwyr cymunedol. Ynni lleol er budd pobl lleol.

Mae’r cymunedau sy’n cydweithio ar y prosiect hwn yn rhannu cefndiroedd tebyg. Maent i gyd yn gymunedau iaith gyntaf Gymraeg, sy’n cynnal eu busnesau a’u bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Roeddent i gyd yn ganolog i’r chwyldro diwydiannol, gan eu bod yn ganolfannau i ddiwydiant y chwareli llechi ac felly wrth gwrs wedi eu heffeithio gan Streic Fawr Chwarel y Penrhyn. Maent bellach yn wynebu cyfuniad o broblemau cyfoes sy’n gysylltiedig â dad-ddiwydiannu ac effeithiau diffyg perchnogaeth neu reolaeth dros ddefnydd adnoddau naturiol lleol. Mae’r rhain yn cynnwys diboblogi (colli pobl ifanc yn arbennig), incwm isel, prinder cyfleoedd gwaith, lefelau tlodi tanwydd uchel, a hen stoc tai ynghyd â’r effeithiau sy’n gysylltiedig â gostyngiadau mewn gwasanaethau a chymorth yn y sector cyhoeddus. Mae’r argyfwng ynni yn gwaethygu’r sefyllfa gan beri i bobl deimlo’n ddiymadferth, a hynny heb gefnogaeth i adfer y sefyllfa.

Mae Cyd Ynni o’r farn nad oes angen i’r heriau hyn fod yn anochel. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd gwaith gwyrdd i bobl ifanc, uwchsgilio a chael profiad gwerthfawr mewn swyddi’r dyfodol/prosiectau adnewyddadwy a mynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni ein hen stoc dai gyda chydymdeimlad. Un o egwyddorion Cyd Ynni yw perchnogaeth gymunedol – mynd i’r afael â’r materion hyn i greu cymunedau mwy hyderus ac abl, sy’n fodlon ymgymryd â mwy o brosiectau eu hunain.

Un o’r argymhellion gan yr aelodau o brosiect gwreiddiol Cyd Ynni, a ddaeth wrth werthuso chwe mlynedd o gydweithio, oedd ehangu’r grwp i gynnwys grwpiau tebyg yng ngogledd Gwynedd. Erbyn hyn, mae Cyd Ynni wedi gwahodd Antur Llanaelhaearn, Antur Nantlle, Siop Griffith / Yr Orsaf ac Ynni Llŷn i ymuno.

Mae Rheolwr Datblygu Cyd Ynni, Phil McGrath, wedi bod yn datblygu ceisiadau ariannu dros y misoedd diwethaf a’r gobaith ydy bydd y cydweithredu rhwng y naw cymuned yn parhau am o leiaf y dair mlynedd nesaf.

Darllenwch ein blog nesaf i ddarganfod mwy am fanylion prosiect Cyd Ynni 2.0.