Postiwyd ar

GwyrddNi

GwyrddNi

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu ar newid hinsawdd sydd wedi ei sefydlu gan chwe menter gymdeithasol yng Ngwynedd, sef Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Siop Griffiths yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn a DEG – Datblygiadau Egni Gwledig. 

Bwriad a nod GwyrddNi yw dod â phobl ynghyd yn y pum ardal uchod er mwyn trafod, dysgu a gweithredu yn lleol ar newid hinsawdd. 

Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd 

Cyn hir byddwn yn cynnal Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn yr ardaloedd hyn, sef ffordd i bobl ddod at ei gilydd i drafod, dysgu a rhannu gwybodaeth a syniadau, cyn penderfynu efo’i gilydd be hoffai’r ardal wneud i weithredu ar newid hinsawdd. Cliciwch yma i ddarllen mwy am Gynulliadau tebyg sydd eisoes wedi eu cynnal ledled y byd. 

Felly, sut mae ymuno? I ddechrau rhaid llenwi ffurflen mynegi diddordeb. Yna, byddwn yn dethol 50 person i ddod i’r Cynulliadau ym mhob ardal. Byddwn yn trio gorau medrwn ni i ddethol 50 person sydd yn cynrychioli poblogaeth yr ardal. 

Mae croeso i unrhyw un (dros 16 oed) fynegi diddordeb. Rydym yn awyddus i glywed eich llais a’ch cyfraniad unigryw chi. Does dim rhaid i chi wybod unrhyw beth o gwbl o flaen llaw, y cwbl sydd angen yw bod yn barod i rannu eich barn a’ch syniadau a gwrando ar farn a syniadau pobl eraill. 

Os oes ganddoch gwestiynau ewch i gael cip olwg ar ein Cwestiynau Cyffredin.

Felly, beth amdani? Cliciwch ar eich ardal isod er mwyn llenwi ffurflen mynegi diddordeb. 

Pen Llŷn
Bro Ffestiniog
Dyffryn Nantlle
Dyffryn Ogwen
Dyffryn Peris 

Mae GwyrddNi yn cael ei ariannu gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Genedlaethol.