Cymunedau Cynaliadwy Cymru
Hyd at Fawrth 2021 roedd DEG yn darparu cefnogaeth a chyngor pwrpasol am ddim i helpu cymunedau Cymru i wella effeithlonrwydd ynni eu hadeiladau trwy’r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy Cymru (CCC).
Fe gafodd CCC ei ariannu gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru a’i ddarparu gan DEG yng ngogledd-orllewin Cymru, fel rhan o gonsortiwm ledled Cymru dan arweiniad Asiantaeth Ynni Gwy Hafren. Darparodd CCC wahanol fathau o gefnogaeth i fudiadau cymunedol, gan gynnwys:
• Arolygon ynni ar y safle a dadansoddi biliau ynni, gydag argymhellion ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni.
• Cymorth i osod technoleg ynni adnewyddadwy yn eu hadeiladau, trwy astudiaethau dichonoldeb a mynediad at arbenigwyr cynllunio, syniadau ac amlygu cyfleoedd.
• Cyflwyniad i Fanc Cymunedol Robert Owen, gyda’r bwriad o dderbyn benthyciad di-log i helpu ariannu gwelliannau i’r adeiladau cymunedol.
Amlygodd gwerthusiad annibynnol o CCC fod buddiolwyr wedi derbyn “profiadau gwbl gadarnhaol o ymgysylltu â’r rhaglen, gyda chefnogaeth wedi’i theilwra i anghenion y grwpiau. Roedd y tîm cyflwyno yn cynnig profiad a gwybodaeth sylweddol i fuddiolwyr, rhai sy’n aml yn gweld y maes hwn yn un cymhleth.
Wrth ymgysylltu â rhaglen CCC, mae buddiolwyr wedi nodi eu bod yn profi mwy o awydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Nododd hefyd bod gosod mesurau effeithlonrwydd ynni wedi arwain at newid mewn ymddygiad, gan annog cymunedau i adolygu eu harferion.
Drwy fabwysiadu awgrymiadau ein harbenigwyr, fe gafodd dros £1m o gontractau eu gwobrwyo i fusnesau yng Nghymru – gan gynnwys gwydro dwbl, boeleri newydd, goleuadau LED, paneli solar, pwyntiau gwefru ceir trydan a phympiau gwres. Cyfrannodd gosodiadau at ostyngiad o 421 tCO2e a £131,500 mewn arbedion ar gyfer yr adeiladau cymunedol.
Er bod y rhaglen bellach wedi dod i ben ac nad yw cefnogaeth am ddim yn cael ei chynnig i ymgeiswyr newydd ar hyn o bryd, mae CCC yn cadw rhestr wrth gefn, felly pe bai cyllid pellach ar gael, gall y rhai sydd wedi mynegi diddordeb wneud ceisiadau newydd i dderbyn cefnogaeth.
I ddarganfod mwy am Gymunedau Cynaliadwy Cymru, ewch i https://sustainablecommunities.wales
