Postiwyd ar

Dathlu Deg Mlynedd o DEG

Dathlu Deg Mlynedd o DEG

Ar y 13eg o Ionawr, mi gyrrhaeddon ni benblwydd arbennig – trodd DEG yn ddeg oed! 

Mae’n anodd credu ein bod ni wedi cyrraedd mor bell. Dechreuon hefo’r gobaith o sbarduno sgyrsiau am gynaliadwyedd a dod a mwy o bobl i weithio mewn swyddi gwyrdd – rŵan gallan ddweud ein bod ni wedi gweithio hefo dros 150 o grwpiau cymunedol ar draws Ogledd Cymru, ein bod yn cyflogi 14 o bobl mewn swyddi gwyrdd yma yng Nghaernarfon (heb sôn am y swyddi eraill sydd wedi’u creu trwy ein sefydliadau partner) a wedi bod yn rhan o gannoedd o sgyrsiau hefo’r cyhoedd am y dyfodol mae nhw eisiau ei weld.

Beth sydd wedi newid ers i ni gychwyn? Pan ddechreuon ni yn ôl yn 2014, ‘doedd geiriau fel “cynaliadwyedd” ac “adnewyddadwy” dim fawr ar flaen tafod pobl – erbyn heddiw, mae hi’n teimlo bod ymwybydaeth am yr amgylchedd a’r effaith rydym yn ei gael ar y byd o’n cwmpas wedi tyfu yn syfrdanol. 

Yn lleol, dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld pethau fel Cynllun Hydro Abergwyngregyn, Bethesda a Llanberis yn datblygu, a rydym wedi helpu cymunedau i arbed ar eu biliau ynni ac i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon. Rydym wedi gweld cymunedau yn dod yn fwy awyddus i gynhyrchu trydan eu hunain; creuwyd Cyd Ynni, sydd dal yn rhan allweddol o’n gwaith ni, bron i 6 mlynedd yn ôl drwy dod a 5 o grwpiau at ei gilydd i edrych ar sut y gallant gefnogi ei gilydd hefo’i prosiectau ynni cymunedol.

Mae bod yn rhan o’n cymuned yn bwysig iawn i ni, felly rydym yn falch iawn o fod wedi gallu gwneud pethau i “roi nôl” – pethau fel rhoi £2000 i Bank Bwyd dros dolig 2022, codi dros £7500 i rhoi bocsus bwyd i rhai bregus rownd dre yn y pandemig, neu yn fwy diweddar rhoi amser am ddim i helpu siop O Law i Llaw i fod yn fwy clyd. 

Felly beth arall sy’n digwydd yn DEG?

Cartrefi Clyd 

Mae Cartrefi Clyd yn rhan o’n Gwasanaeth Ynni, sy’n cynnig cyngor ar ynni adnewyddadwy, gwella effeithlonrwydd ynni, a lleihau allyriadau carbon, yn ogystal â chynnig ôl-osod ac asesiad ynni ar gyfer adeiladau domestig ac annomestig.

Bydd Cartrefi Clyd yn cefnogi datgarboneiddio cartrefi, yn bennaf drwy asesiad ôl-osod o adeiladau preswyl: edrych ar sut i wneud cartrefi presennol yn fwy ynni-effeithlon. Bydd DEG yn gweithio ar draws Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych. Mae Cartrefi Clyd yn cynnig cyngor a chymorth ledled Cymru ar sut i gadw eich cartref yn gynnes. https://www.cartreficlyd.cymru/cy/

Prosiect Sero Net Gwynedd

Gwenno a Raman ym Mhorth i Dre yn dosbarthu blancedi gwresog dros y gaeaf

Mae DEG yn bartner ar Brosiect Sero Net Gwynedd, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gan weithio gydag Adra, Cyngor Gwynedd, Grŵp Cynefin a sefydliadau cymunedol eraill Partneriaeth Ogwen, Ynni Llŷn, Cyd Ynni, Yr Orsaf, a MaesNi. Rydym yn arwain ar ran y gwaith o fynd i’r afael a lleddfu tlodi tanwydd yng Ngwynedd, gyda’r nod ychwanegol o ddatgarboneiddio Gwynedd.

Bydd Swyddogion Ynni’r prosiect, sy’n cael eu recriwtio a’u hyfforddi ar hyn o bryd, yn darparu cyngor wedi’i deilwra ar sut i leihau’r defnydd o ynni a gwella effeithlonrwydd yn eu cartrefi, gan eu cefnogi i wneud cais am fudd-daliadau/grantiau priodol a chynnig cymorth ar unwaith (e.e. talebau tanwydd) yn dibynnu ar y sefyllfa.

Os oes gan eich cymuned adeilad – fel neuadd bentref neu glwb chwaraeon – gallwch gysylltu â ni ynglŷn â’n hasesiadau ynni: dyma ble rydyn ni’n dod i ymweld â’ch adeilad ac yn rhoi adroddiad ac awgrymiadau i chi ar sut y gallwch chi gwella effeithlonrwydd ynni, gostwng eich biliau, a lleihau eich ôl troed carbon.

Gallwch gael cyngor ar leihau defnydd ynni yn eich cartref drwy gysylltu ag un o’n Swyddogion Ynni heddiw – cysylltwch â Gwenno, Swyddog Ynni ar gwenno@deg.cymru neu Bharadwaj Raman, ein Cydlynydd Gwasanaeth Ynni ar b.raman@deg.cymru 

GwyrddNi

Mae GwyrddNi wedi dod â 6 menter gymunedol a dros 500 o bobl a phlant ysgol ynghyd i ddychmygu a symud tuag at atebion i un o’r problemau mwyaf sy’n ein hwynebu – newid hinsawdd – ac i greu cymunedau cynaliadwy, datgarbonedig gydag economïau lleol ffyniannus. 

Dros y tair blynedd diwethaf bu ein hwyluswyr yn gweithio gyda chriw o drigolion o bum ardal (Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Peris, Pen Llŷn a Bro Ffestiniog) a gydag ysgolion i greu set o Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol (gallwch eu gweld yma).

Tîm newydd GwyrddNi ar eu taith fyrddio – yma yn Nyffryn Nantlle

Rydym yn falch iawn bod GwyrddNi wedi derbyn ail rownd o gyllid yn ddiweddar gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i barhau am bedair blynedd a hanner arall – felly rydym wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y Cyfnod Gweithredu Cymunedol ers diwedd y llynedd! Y dasg nawr fydd dod â’r syniadau prosiect o’r Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol yn fyw. Darllenwch fwy am hyn ar y blog GwyrddNi!

Wedi cyflogi 5 o bobl newydd i gwblhau’r tîm, rydym yn sicr y bydd llawer o bethau cyffrous yn dechrau digwydd dros y misoedd nesaf: o sied biclo yn Nyffryn Nantlle, Gŵyl Hinsawdd yn Nyffryn Ogwen a chynllun llogi a thrwsio beiciau yn Pen Llŷn, mae llawer o bethau ar y gweill.

Cymru Wledig LPIP Rural Wales

Mae DEG yn rhan o bartneriaeth a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth a dderbyniodd dros £5 miliwn o gyllid yn ddiweddar i ymchwilio ac archwilio atebion i heriau gwledig.

Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol i Gymru Wledig, yn cysylltu ymchwilwyr, cymunedau a llunwyr polisi i gefnogi datblygiad cynhwysol, cynaliadwy – darllenwch fwy yma.

Bydd ymchwilwyr a llunwyr polisi yn gweithio gyda chymunedau o bob rhan o Gymru wledig i archwilio atebion arloesol i amrywiaeth o heriau mawr a wynebir gan gymunedau gwledig, megis materion fel y “premiwm gwledig” ar dlodi.

Wedi’i hariannu gan UKRI, nod y bartneriaeth ymchwil yw llenwi bylchau tystiolaeth, archwilio atebion arloesol, a gwella’r defnydd o ymchwil i gefnogi polisïau effeithiol i feithrin ‘economi lles’.

Bydd yn canolbwyntio ar yr heriau o adeiladu economi adfywiol, cefnogi’r cyfnod pontio sero net, gwella iechyd, llesiant a mynediad at wasanaethau, a grymuso cymunedau a diwylliant, gan gynnwys adfywio’r Gymraeg.

Rydym yn falch iawn y bydd ein Cyfarwyddwr, Grant Peisley, yn arwain y Grŵp Thematig Sero Net.

Sut bydd y 10 mlynedd nesaf yn edrych? 

Mae hi’n anodd dweud wrth gwrs, ond un peth sy’n bwysig i ni yn DEG ydi gwneud yn siwr ein bod ni wedi dysgu cyn brasgamu ymlaen. Dyna pam byddwn ni’n gwario dipyn o amser yn 2024 ar fesur gwir effaith cymdeithasol ein gwaith dros y degawd diwethaf. Trwy siarad hefo’n partneriaid, staff, a rhai eraill sydd wedi bod yn rhan o’n gwaith, byddwn yn cael gwell ddarlun o faint rydym wir wedi helpu – a mi fydd hynny’n helpu ni i benderfynu sut awn ni ymlaen am y degawd nesaf!

Beth bynnag a ddaw, ein nod ydi i barhau i gyflawni gwaith ystyrlon sy’n creu buddion lleol, sy’n rhoi pobl yng nghanol y newid bositif, gan eu grymuso a chynyddu eu hyder i wneud y newidiadau yma, ac i dod â buddion amgylcheddol, economaidd, cymunedol/gymdeithasol a diwylliannol.

Ond, yn y cyfamser, fasen ni wrth ein bodd yn clywed eich syniadau chi hefyd – oes na brosiect ynni ‘sa chi’n hoffi ei weld yn eich ardal? Anfonwch neges i phil@deg.cymru hefo’r syniadau os oes. Syniadau eraill? ‘Dan ni’n awyddus i’w clywed nhw – anfonwch neges i post@deg.cymru hefo’ch awgrymiadau!