Mae nifer fawr o drigolion yng Ngwynedd yn dioddef hefo tlodi tanwydd a ddim yn gwybod lle i droi am gyngor. Mae Prosiect Sero Net Gwynedd, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU, yn galluogi ein Swyddogion Ynni i helpu unigolion a theuluoedd ar draws Gwynedd unai mewn hybiau cymunedol, drwy ymweliad cartref neu drost y ffôn.
Mae’r Swyddogion Ynni DEG yma i’ch helpu drwy:
- godi ymwybyddiaeth o fanteision arbed ynni
- roi cymorth ymarferol ar leihau costau a defnydd o ynni yn y cartref
- roi cyngor i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi
- gynhori pa grantiau sydd ar gael
- ddarparu offer arbed ynni (er enghraifft bylbiau LED)
- roi’r cyfle i bawb sydd yn gymwys i ymunno a’r rhestr gwasanaeth a blaenoriaeth gyda’u cyflenwyr dŵr, trydan a nwy.
Ers llynnedd, mae Wales & West Utilities wedi ariannu prosiect dwy flynedd sy’n galluogi DEG ac Adra i adeiladu ar lwyddiant Prosiect Sero Net Gwynedd. Mae’r prosiect yn ymwneud â chefnogi unigolion mewn canolfannau cymunedol neu yn eu cartrefi eu hunain i leihau’r defnydd o ynni ac felly gwella eu lles ariannol, datgarboneiddio eu cartrefi a chael cyngor ymarferol ar beryglon gwenwyn carbon monocsid (CO).
Faint ydych chi’n ei wybod am garbon monocsid (CO)?
Mae carbon monocsid yn nwy a rhyddheir pan fo unrhyw danwydd ffosil sy’n llosgi gan gynnwys glo, olew, coed a nwy, yn peidio llosgi’n iawn.
Ni allwch ei weld, ei arogli na’i flasu ac mae tua 40 o bobl yn marw o wenwyno carbon monocsid yn y DU pob blwyddyn, a miloedd yn cael eu hanafu.
Mae dod i gysylltiad â CO yn dod â llawer o symptomau y gellir eu camgymryd am afiechydon eraill fel annwyd neu ffliw, yn ogystal a teimlo’n sâl, poen yn y frest neu’r stumog, cur pen neu teimlo eich bod wedi blino.
Sicrhewch bod unrhyw offer sy’n cael ei bweru gan danwydd ffosil yn cael ei wasanaethu’n flynyddol gan beiriannydd cofrestredig diogelwch nwy. Nid yw larymau mwg yn canfod CO felly sicrhewch fod gennych larwm CO o fewn 3m i bob teclyn llosgi tanwydd ffosil a’i fod yn cael ei brofi’n rheolaidd.
Darllenwch fwy am Garbon Monocsid yma.
Cefnogaeth ar Gael
Dros y flwyddyn diwethaf, rydym wedi bod yn ffodus i weithio gyda gwahanol ganolfannau yn y gymuned a’u cefnogi. Fe wnaethom greu pecynnau cynnes y gaeaf yn cynnwys eitemau o ffynonellau lleol lle bo’n bosibl a’u dosbarthu i rai unigolion ym Mhorthi Dre a Banc Bwyd Arfon. Rydym hefyd wedi ymweld â’r Warws Werdd ar sawl achlysur i ddosbarthu pecynnau gwybodaeth a bylbiau LED i’w cwsmeriaid.

Bydd swyddogion ynni yn Llyfrgell Caernarfon o 9:30y.b. tan 12:30y.h. ar y dyddiadau canlynol:
- Ebrill 16
- Mai 14
- Mehefin 11
Dewch draw am sgwrs a phanad, ac ewch â phecyn gwybodaeth arbed ynni a bwlb LED adref gyda chi.
Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu os hoffech drefnu apwyntiad gyda Swyddog Ynni naill ai dros y ffôn neu yn eich cartref, cysylltwch â ni ar ynni@deg.cymru neu 07495237679.
