Postiwyd ar

Gwneud cartrefi lleol yn “glyd”

Yma yn DEG, rydym yn frwd dros helpu pobl i drosglwyddo i gartrefi iach, wedi’u datgarboneiddio, sy’n rhatach i’w cadw ar dymheredd cyfforddus – cartrefi clyd. Mae hyn o fudd i bawb (ar wahân i gyfranddalwyr cwmnïau ynni!) ac mae’n well i’r blaned.

Fel rhan o Wasanaeth Ynni DEG, gall ein haseswyr ynni ymweld â’ch cartref (neu adeilad dibreswyl) a rhoi asesiad ynni manwl i chi, gyda chyngor ar yr holl ffyrdd y gallwch arbed arian ar eich biliau ynni a lleihau eich ôl troed carbon. Mae’r rhain yn dechrau gyda mesurau bach, rhad neu di-dal, yr holl ffordd at rai mawr fel gwella eich inswleiddiad neu osod paneli solar neu bympiau gwres. Nid oes unrhyw un yn ein talu i werthu eu cynnyrch, felly gallwn gynnig cyngor gonest, annibynnol sy’n addas i chi a’ch cartref.

Pam fod hyn yn bwysig?

Mae gan Cymru rai o’r eiddo wedi’u hinswleiddio gwaethaf yn Ewrop, gyda dim ond 7% o gartrefi y DU wedi’u hadeiladu ar ôl 2001, ac yma yng Ngogledd-orllewin Cymru mae gennym y canran uchaf o gartrefi wedi eu hadeiladu cyn 1919 yng Ngorllewin Ewrop.

Yn ogystal â rhai o’r cyflogau cymedrig isaf yn y DU, ni hefyd sy’n talu’r prisiau uchaf am ein trydan a rhai o’r prisiau uchaf am danwydd nwy a gwresogi – y gaeaf diwethaf, clywodd Sefydliad Bevan fod 39% o bobl Cymru wedi gorfod torri’n ôl ar wres oherwydd cost.

Rwyf aml yn clywed “gwresogwch y person, nid y tŷ” fel ffordd o arbed ynni a lleihau ein biliau tanwydd, ond yn anffodus mae angen i lawer o hen dai Cymru aros wedi’u gwresogi a’u hawyru er mwyn atal llwydni rhag tyfu. Mae difrifoldeb cartrefi sydd wedi llwydo wedi dod yn fwy adnabyddus yn ddiweddar: gall dod i gysylltiad â llwydni achosi amrywiaeth o faterion iechyd, gan waethygu problemau anadlol fel asthma ac alergeddau.

Sut allwn ni helpu?

Mae Cartrefi Clyd, prosiect yr ydym yn partneru arno, yn darparu gwasanaeth cymorthdaledig sy’n helpu i leihau’r gost o ôl-osod eich cartref. Mae ôl-osod yn golygu gwneud gwelliannau i’ch cartref i’w wneud yn fwy clyd (er enghraifft, inswleiddio, awyru, neu newidiadau i ffenestri). Darllenwch mwy yma: www.cartreficlyd.cymru

Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau a chyngor am ddim; os ydych eisiau gwybod pa gymorth ariannol gallwch ei gael, eisiau dysgu mwy am wneud eich cartref yn fwy effeithlon, neu ddim ond eisiau siarad â rhywun am eich biliau ynni – gallwch ddod o hyd i Swyddogion Ynni DEG yn Porthi Dre dros y misoedd nesaf – Mehefin 25, Gorffennaf 30, Awst 27, Medi 24, Hydred 29, Tachwedd 26.

Dewch draw am sgwrs a phanad, a chymerwch becyn arbed ynni a bwlb LED am ddim adref gyda chi. Rydym hefyd yn gwneud asesu ar adeiladau fel tafarndai cymunedol a neuaddau chwaraeon – cysylltwch hefo ni i ddysgu mwy! Ebost: ynni@deg.cymru / ffonio 07495237679.

Postiwyd ar

Cefnogaeth a Chyngor gan Swyddogion Ynni DEG

Mae nifer fawr o drigolion yng Ngwynedd yn dioddef hefo tlodi tanwydd a ddim yn gwybod lle i droi am gyngor. Mae Prosiect Sero Net Gwynedd, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU, yn galluogi ein Swyddogion Ynni i helpu unigolion a theuluoedd ar draws Gwynedd unai mewn hybiau cymunedol, drwy ymweliad cartref neu drost y ffôn.

Mae’r Swyddogion Ynni DEG yma i’ch helpu drwy:

  • godi ymwybyddiaeth o fanteision arbed ynni
  • roi cymorth ymarferol ar leihau costau a defnydd o ynni yn y cartref
  • roi cyngor i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi
  • gynhori pa grantiau sydd ar gael
  • ddarparu offer arbed ynni (er enghraifft bylbiau LED)
  • roi’r cyfle i bawb sydd yn gymwys i ymunno a’r rhestr gwasanaeth a blaenoriaeth gyda’u cyflenwyr dŵr, trydan a nwy.

Ers llynnedd, mae Wales & West Utilities wedi ariannu prosiect dwy flynedd sy’n galluogi DEG ac Adra i adeiladu ar lwyddiant Prosiect Sero Net Gwynedd. Mae’r prosiect yn ymwneud â chefnogi unigolion mewn canolfannau cymunedol neu yn eu cartrefi eu hunain i leihau’r defnydd o ynni ac felly gwella eu lles ariannol, datgarboneiddio eu cartrefi a chael cyngor ymarferol ar beryglon gwenwyn carbon monocsid (CO).

Faint ydych chi’n ei wybod am garbon monocsid (CO)? 

Mae carbon monocsid yn nwy a rhyddheir pan fo unrhyw danwydd ffosil sy’n llosgi gan gynnwys glo, olew, coed a nwy, yn peidio llosgi’n iawn.

Ni allwch ei weld, ei arogli na’i flasu ac mae tua 40 o bobl yn marw o wenwyno carbon monocsid yn y DU pob blwyddyn, a miloedd yn cael eu hanafu.

Mae dod i gysylltiad â CO yn dod â llawer o symptomau y gellir eu camgymryd am afiechydon eraill fel annwyd neu ffliw, yn ogystal a teimlo’n sâl, poen yn y frest neu’r stumog, cur pen neu teimlo eich bod wedi blino.

Sicrhewch bod unrhyw offer sy’n cael ei bweru gan danwydd ffosil yn cael ei wasanaethu’n flynyddol gan beiriannydd cofrestredig diogelwch nwy. Nid yw larymau mwg yn canfod CO felly sicrhewch fod gennych larwm CO o fewn 3m i bob teclyn llosgi tanwydd ffosil a’i fod yn cael ei brofi’n rheolaidd. 

Darllenwch fwy am Garbon Monocsid yma.

Cefnogaeth ar Gael

Dros y flwyddyn diwethaf, rydym wedi bod yn ffodus i weithio gyda gwahanol ganolfannau yn y gymuned a’u cefnogi. Fe wnaethom greu pecynnau cynnes y gaeaf yn cynnwys eitemau o ffynonellau lleol lle bo’n bosibl a’u dosbarthu i rai unigolion ym Mhorthi Dre a Banc Bwyd Arfon. Rydym hefyd wedi ymweld â’r Warws Werdd ar sawl achlysur i ddosbarthu pecynnau gwybodaeth a bylbiau LED i’w cwsmeriaid.

Gwenno a Raman, dau o Swyddogion Ynni DEG, yn rhannu offer i gadw’n gynnes yn Porthi Dre dros y gaeaf

Bydd swyddogion ynni yn Llyfrgell Caernarfon o 9:30y.b. tan 12:30y.h. ar y dyddiadau canlynol: 

  • Ebrill 16
  • Mai 14
  • Mehefin 11 

Dewch draw am sgwrs a phanad, ac ewch â phecyn gwybodaeth arbed ynni a bwlb LED adref gyda chi. 

Fel arall, os oes gennych unrhyw gwestiynau, awgrymiadau neu os hoffech drefnu apwyntiad gyda Swyddog Ynni naill ai dros y ffôn neu yn eich cartref, cysylltwch â ni ar ynni@deg.cymru neu 07495237679.

Postiwyd ar

Dathlu Deg Mlynedd o DEG

Dathlu Deg Mlynedd o DEG

Ar y 13eg o Ionawr, mi gyrrhaeddon ni benblwydd arbennig – trodd DEG yn ddeg oed! 

Mae’n anodd credu ein bod ni wedi cyrraedd mor bell. Dechreuon hefo’r gobaith o sbarduno sgyrsiau am gynaliadwyedd a dod a mwy o bobl i weithio mewn swyddi gwyrdd – rŵan gallan ddweud ein bod ni wedi gweithio hefo dros 150 o grwpiau cymunedol ar draws Ogledd Cymru, ein bod yn cyflogi 14 o bobl mewn swyddi gwyrdd yma yng Nghaernarfon (heb sôn am y swyddi eraill sydd wedi’u creu trwy ein sefydliadau partner) a wedi bod yn rhan o gannoedd o sgyrsiau hefo’r cyhoedd am y dyfodol mae nhw eisiau ei weld.

Beth sydd wedi newid ers i ni gychwyn? Pan ddechreuon ni yn ôl yn 2014, ‘doedd geiriau fel “cynaliadwyedd” ac “adnewyddadwy” dim fawr ar flaen tafod pobl – erbyn heddiw, mae hi’n teimlo bod ymwybydaeth am yr amgylchedd a’r effaith rydym yn ei gael ar y byd o’n cwmpas wedi tyfu yn syfrdanol. 

Yn lleol, dros y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi gweld pethau fel Cynllun Hydro Abergwyngregyn, Bethesda a Llanberis yn datblygu, a rydym wedi helpu cymunedau i arbed ar eu biliau ynni ac i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon. Rydym wedi gweld cymunedau yn dod yn fwy awyddus i gynhyrchu trydan eu hunain; creuwyd Cyd Ynni, sydd dal yn rhan allweddol o’n gwaith ni, bron i 6 mlynedd yn ôl drwy dod a 5 o grwpiau at ei gilydd i edrych ar sut y gallant gefnogi ei gilydd hefo’i prosiectau ynni cymunedol.

Mae bod yn rhan o’n cymuned yn bwysig iawn i ni, felly rydym yn falch iawn o fod wedi gallu gwneud pethau i “roi nôl” – pethau fel rhoi £2000 i Bank Bwyd dros dolig 2022, codi dros £7500 i rhoi bocsus bwyd i rhai bregus rownd dre yn y pandemig, neu yn fwy diweddar rhoi amser am ddim i helpu siop O Law i Llaw i fod yn fwy clyd. 

Felly beth arall sy’n digwydd yn DEG?

Cartrefi Clyd 

Mae Cartrefi Clyd yn rhan o’n Gwasanaeth Ynni, sy’n cynnig cyngor ar ynni adnewyddadwy, gwella effeithlonrwydd ynni, a lleihau allyriadau carbon, yn ogystal â chynnig ôl-osod ac asesiad ynni ar gyfer adeiladau domestig ac annomestig.

Bydd Cartrefi Clyd yn cefnogi datgarboneiddio cartrefi, yn bennaf drwy asesiad ôl-osod o adeiladau preswyl: edrych ar sut i wneud cartrefi presennol yn fwy ynni-effeithlon. Bydd DEG yn gweithio ar draws Gwynedd, Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych. Mae Cartrefi Clyd yn cynnig cyngor a chymorth ledled Cymru ar sut i gadw eich cartref yn gynnes. https://www.cartreficlyd.cymru/cy/

Prosiect Sero Net Gwynedd

Gwenno a Raman ym Mhorth i Dre yn dosbarthu blancedi gwresog dros y gaeaf

Mae DEG yn bartner ar Brosiect Sero Net Gwynedd, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gan weithio gydag Adra, Cyngor Gwynedd, Grŵp Cynefin a sefydliadau cymunedol eraill Partneriaeth Ogwen, Ynni Llŷn, Cyd Ynni, Yr Orsaf, a MaesNi. Rydym yn arwain ar ran y gwaith o fynd i’r afael a lleddfu tlodi tanwydd yng Ngwynedd, gyda’r nod ychwanegol o ddatgarboneiddio Gwynedd.

Bydd Swyddogion Ynni’r prosiect, sy’n cael eu recriwtio a’u hyfforddi ar hyn o bryd, yn darparu cyngor wedi’i deilwra ar sut i leihau’r defnydd o ynni a gwella effeithlonrwydd yn eu cartrefi, gan eu cefnogi i wneud cais am fudd-daliadau/grantiau priodol a chynnig cymorth ar unwaith (e.e. talebau tanwydd) yn dibynnu ar y sefyllfa.

Os oes gan eich cymuned adeilad – fel neuadd bentref neu glwb chwaraeon – gallwch gysylltu â ni ynglŷn â’n hasesiadau ynni: dyma ble rydyn ni’n dod i ymweld â’ch adeilad ac yn rhoi adroddiad ac awgrymiadau i chi ar sut y gallwch chi gwella effeithlonrwydd ynni, gostwng eich biliau, a lleihau eich ôl troed carbon.

Gallwch gael cyngor ar leihau defnydd ynni yn eich cartref drwy gysylltu ag un o’n Swyddogion Ynni heddiw – cysylltwch â Gwenno, Swyddog Ynni ar gwenno@deg.cymru neu Bharadwaj Raman, ein Cydlynydd Gwasanaeth Ynni ar b.raman@deg.cymru 

GwyrddNi

Mae GwyrddNi wedi dod â 6 menter gymunedol a dros 500 o bobl a phlant ysgol ynghyd i ddychmygu a symud tuag at atebion i un o’r problemau mwyaf sy’n ein hwynebu – newid hinsawdd – ac i greu cymunedau cynaliadwy, datgarbonedig gydag economïau lleol ffyniannus. 

Dros y tair blynedd diwethaf bu ein hwyluswyr yn gweithio gyda chriw o drigolion o bum ardal (Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Peris, Pen Llŷn a Bro Ffestiniog) a gydag ysgolion i greu set o Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol (gallwch eu gweld yma).

Tîm newydd GwyrddNi ar eu taith fyrddio – yma yn Nyffryn Nantlle

Rydym yn falch iawn bod GwyrddNi wedi derbyn ail rownd o gyllid yn ddiweddar gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i barhau am bedair blynedd a hanner arall – felly rydym wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer y Cyfnod Gweithredu Cymunedol ers diwedd y llynedd! Y dasg nawr fydd dod â’r syniadau prosiect o’r Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol yn fyw. Darllenwch fwy am hyn ar y blog GwyrddNi!

Wedi cyflogi 5 o bobl newydd i gwblhau’r tîm, rydym yn sicr y bydd llawer o bethau cyffrous yn dechrau digwydd dros y misoedd nesaf: o sied biclo yn Nyffryn Nantlle, Gŵyl Hinsawdd yn Nyffryn Ogwen a chynllun llogi a thrwsio beiciau yn Pen Llŷn, mae llawer o bethau ar y gweill.

Cymru Wledig LPIP Rural Wales

Mae DEG yn rhan o bartneriaeth a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth a dderbyniodd dros £5 miliwn o gyllid yn ddiweddar i ymchwilio ac archwilio atebion i heriau gwledig.

Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales, y Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol i Gymru Wledig, yn cysylltu ymchwilwyr, cymunedau a llunwyr polisi i gefnogi datblygiad cynhwysol, cynaliadwy – darllenwch fwy yma.

Bydd ymchwilwyr a llunwyr polisi yn gweithio gyda chymunedau o bob rhan o Gymru wledig i archwilio atebion arloesol i amrywiaeth o heriau mawr a wynebir gan gymunedau gwledig, megis materion fel y “premiwm gwledig” ar dlodi.

Wedi’i hariannu gan UKRI, nod y bartneriaeth ymchwil yw llenwi bylchau tystiolaeth, archwilio atebion arloesol, a gwella’r defnydd o ymchwil i gefnogi polisïau effeithiol i feithrin ‘economi lles’.

Bydd yn canolbwyntio ar yr heriau o adeiladu economi adfywiol, cefnogi’r cyfnod pontio sero net, gwella iechyd, llesiant a mynediad at wasanaethau, a grymuso cymunedau a diwylliant, gan gynnwys adfywio’r Gymraeg.

Rydym yn falch iawn y bydd ein Cyfarwyddwr, Grant Peisley, yn arwain y Grŵp Thematig Sero Net.

Sut bydd y 10 mlynedd nesaf yn edrych? 

Mae hi’n anodd dweud wrth gwrs, ond un peth sy’n bwysig i ni yn DEG ydi gwneud yn siwr ein bod ni wedi dysgu cyn brasgamu ymlaen. Dyna pam byddwn ni’n gwario dipyn o amser yn 2024 ar fesur gwir effaith cymdeithasol ein gwaith dros y degawd diwethaf. Trwy siarad hefo’n partneriaid, staff, a rhai eraill sydd wedi bod yn rhan o’n gwaith, byddwn yn cael gwell ddarlun o faint rydym wir wedi helpu – a mi fydd hynny’n helpu ni i benderfynu sut awn ni ymlaen am y degawd nesaf!

Beth bynnag a ddaw, ein nod ydi i barhau i gyflawni gwaith ystyrlon sy’n creu buddion lleol, sy’n rhoi pobl yng nghanol y newid bositif, gan eu grymuso a chynyddu eu hyder i wneud y newidiadau yma, ac i dod â buddion amgylcheddol, economaidd, cymunedol/gymdeithasol a diwylliannol.

Ond, yn y cyfamser, fasen ni wrth ein bodd yn clywed eich syniadau chi hefyd – oes na brosiect ynni ‘sa chi’n hoffi ei weld yn eich ardal? Anfonwch neges i phil@deg.cymru hefo’r syniadau os oes. Syniadau eraill? ‘Dan ni’n awyddus i’w clywed nhw – anfonwch neges i post@deg.cymru hefo’ch awgrymiadau! 

Postiwyd ar

Doethuriaeth: Rôl y Gymraeg mewn Mentrau Cymunedol

DIWEDDARIAD: Mae ceisiadau ar gau. Mae Emily-Louise yn astudio rôl y Gymraeg mewn grwpiau gweithredu cymunedol ac ymgysylltu â’r gymuned, gan weithio ochr yn ochr â GwyrddNi – darllenwch fwy yma.

Mae’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau (Prifysgol Bangor), gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (DTP Cymru), ac mewn cydweithrediad â ni, Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaeth ddoethurol wedi ei hariannu o fewn y Llwybr Dwyieithrwydd, i gychwyn mis Hydref 2023, ar y pwnc: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu cymunedol.

Mae’r cyfle hwn ar agor nawr a’r dyddiad cau yw 3 Chwefror 2023 am hanner dydd.

Bydd cwestiwn ymchwil penodol y prosiect hwn “Beth yw effeithiau trin y Gymraeg yn eilradd yn ystod prosesau gwneud penderfyniadau mewn grwpiau cymunedol dwyieithog sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn bennaf?” yn cael ei astudio trwy fethodolegau ieithyddol (cymdeithasol) safonol (arolygon, cyfweliadau, arsylwi, dadansoddi disgwrs). Bydd Dadansoddiad Disgwrs Gwybyddol (Tenbrink, 2020) yn cael ei ddefnyddio i ddeall â cysyniadau a phatrymau meddwl siaradwyr y tu hwnt i’r rhai sy’n cael eu mynegi’n benodol gan yr hyn y mae pobl yn ei ddweud, gan edrych ar y ffordd y caiff ei ddweud. Bydd y mewnwelediadau hyn yn cael eu defnyddio i lunio ar y cyd ganllawiau ac argymhellion ar gyfer gweithredu cymunedol mewn cyd-destunau dwyieithog.

Cliciwch yma ar gyfer y wybodaeth lawn. Os am gael sgwrs cyn gwneud cais mae croeso i chi gysylltu â’r Athro Thora Tenbrink ar t.tenbrink@bangor.ac.uk.

Postiwyd ar

Rhodd o £2000 gan DEG i Fanc Bwyd Arfon

Mae Menter Gymdeithasol Datblygiadau Egni Gwledig (DEG) yng Nghaernarfon wedi rhoi rhodd o ddwy fil o bunnau i Fanc Bwyd Arfon y Nadolig hwn.

Wrth roi’r cyfraniad ariannol mae DEG yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o waith gwych a di-flino’r Banc Bwyd lleol.

“Mewn byd delfrydol fyddai dim angen Banc Bwyd,” meddai Grant Peisley, Cyfarwyddwr DEG. “Ond yn anffodus mae eu hangen yn fwy nac erioed, ac felly rydym yn hynod falch o fedru eu cefnogi eleni.

“Rydym ni’n darparu cyngor ynni i bobl ledled Gwynedd ac felly’n gweld ein hunain pa mor anodd yw hi ar lawer un ar hyn o bryd ac yn gwybod bod gwaith y Banc Bwyd yn gwbl amhrisiadwy. Gobeithio y bydd ein rhodd yn gwneud y Nadolig hwn ychydig yn haws i rai o’n cymdogion yn yr ardal.”

Agorwyd Banc Bwyd Arfon ddeng mlynedd yn ôl yn 2012, a dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i gostau bwyd ac ynni gynyddu, mae’r nifer sy’n defnyddio’r banc bwyd hefyd wedi cynyddu 76%.

Meddai Trey McCain o Fanc Bwyd Arfon: “Gyda phawb yn wynebu heriau y Nadolig hwn, mae ein gwasanaeth ni wedi dod yn fwyfwy pwysig ac mae rhoddion fel hyn yn gwbl allweddol er mwyn i ni fedru helpu pobl sydd yn wynebu’r argyfwng costau byw y Nadolig hwn a rownd dy flwyddyn. Wrth gwrs, y realiti yw mai dim ond yr hyn yr ydym yn ei dderbyn yr ydym yn medru ei rannu. Diolch o waelod calon i DEG a grwpiau ac unigolion eraill yn ein hardal sydd yn ein galluogi i wneud y gwaith hwn.”

Mae DEG yn fenter gymunedol sy’n defnyddio unrhyw elw i helpu cymunedau lleol. Yn y gorffennol maent wedi prynu 300 o goed derw i’w plannu gyda cymunedau ledled Gwynedd, ac wedi noddi timau pêl-droed, rygbi a chriced yr ardal.